Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym yn cydnabod yr oedd angen i Lywodraeth y DU weithredu heddiw i gyflwyno'r Bil Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) - (Bil Diwydiant Dur (Mesurau Arbennig) - Biliau Seneddol - Senedd y DU) - mewn ymateb uniongyrchol i'r amgylchiadau eithriadol ac unigryw a wynebwyd yn ystod y trafodaethau gyda Jingye, perchnogion British Steel.

Mae dur wrth wraidd cymaint o weithgarwch economaidd yng Nghymru a'r DU. Mae'n ddeunydd hanfodol ar gyfer ein llwyddiant presennol a’n llwyddiant yn y dyfodol. Mae’r diwydiannau adeiladu, modurol, seilwaith ac ynni adnewyddadwy i gyd yn dibynnu ar ddur. Bydd dur wrth wraidd datblygiad diwydiannau newydd yn ogystal â chyflenwi ein sylfaen weithgynhyrchu bresennol. Gyda digwyddiadau byd-eang presennol, nawr yn fwy nag erioed, mae'n rhaid i ni wneud popeth y gallwn i amddiffyn ein diwydiant dur.

Mae dur hefyd wedi bod wrth galon ein cymunedau ers cenedlaethau.  Felly, rydym yn deall yn well nag eraill sefyllfa’r gymuned yn Scunthorpe, wrth iddynt wynebu ansicrwydd ynghylch dyfodol ffatri British Steel, ac rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw. 

Mae'r sefyllfa a drafodwyd yn Senedd y DU heddiw yn wahanol i'r un a wynebwyd gyda Tata Steel. Roedd y cytundeb yng Nghymru yn gytundeb nid yn unig ar gyfer y presennol ond hefyd ar gyfer dyfodol dur. Llwyddodd Llywodraeth y DU yn dilyn ei hetholiad i sicrhau bargen llawer gwell ar gyfer ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot na'r cynllun a gyhoeddwyd ym mis Medi 2023. Efallai nid dyma'r fargen y byddem wedi dymuno, ond, o ystyried y paramedrau a'r pwysau amser i sicrhau adeiladu'r Ffwrnais Arc Drydan newydd, roedd yn fargen sylweddol well.

Mae'r trawsnewidiad i ffwrnais arc drydan ym Mhort Talbot yn adeiladu pont at ddyfodol mwy cynaliadwy i'r cwmni. Rydym am i'n sector dur yng Nghymru ffynnu ac mae'r trawsnewidiad sydd bellach yn digwydd ym Mhort Talbot yn darparu llwybr clir ar gyfer dyfodol hirdymor. Rydym yn parhau i ymgysylltu â'r cwmni ar y trawsnewid, y cyfleoedd sylweddol a'i gynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys y sectorau hynny sydd yn dibynnu ar ddur.

Rydym yn cydnabod bod y trawsnewidiad hwn yn cael effaith sylweddol ar ein cymunedau a'n busnesau. Trwy waith parhaus yr holl bartneriaid ar Fwrdd Pontio Tata, rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i'r rhai sydd wedi eu effeithio a byddwn yn parhau i wneud hynny.

Mae'r Bwrdd wedi dod â'n holl fecanweithiau cymorth ar y cyd at ei gilydd, gan gynnwys y rhai a ddarperir gan grwpiau cymunedol lleol i ddarparu dull cyfannol o helpu'r gweithwyr hynny, eu teuluoedd a'r cymunedau ehangach yr effeithir arnynt gan drawsnewidiad Tata. Mae tudalen ar gael ar wefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot sy'n rhoi gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. 

Mae Llywodraeth newydd y DU hefyd wedi ymrwymo i Gronfa Gyfoeth Genedlaethol gwerth £2.5 biliwn ar gyfer y sector dur ynghyd â Strategaeth Ddur newydd.  Cadarnhaodd dadl heddiw ar y Bil fod hyn yn ychwanegol i’r £500m sy'n mynd i Bort Talbot, a bydd yn cynnig cyfle pellach i fuddsoddi yn y diwydiant yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn falch o fod yn aelod o’r Cyngor Dur sy'n goruchwylio'r gwaith o ddatblygu Strategaeth Ddur newydd. 

Mae'n hanfodol bod cwmnïau dur yng Nghymru yn elwa o'r gronfa trwy fuddsoddiadau cyfalaf a thrwy ddatblygiadau polisi sydd yn gallu sicrhau dyfodol y diwydiant ymhellach a chreu swyddi ystyrlon. Rwyf wedi ysgrifennu heddiw at Jonathan Reynolds, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach yn cadarnhau safbwynt ac ymrwymiad a rennir i'r sector dur cyfan yn y DU, yn benodol safleoedd yng Nghymru.

Mae dur wrth wraidd trawsnewidiad llawer ehangach yng Nghymru. Mae gennym weledigaeth gyfannol gref ar gyfer pontio rhanbarth Cymru a De Cymru yn seiliedig ar seilwaith a buddsoddiad newydd. 

Mae hon yn weledigaeth gyffrous gyda chefnogaeth eang o randdeiliaid a thrawsnewidiaeth ar gyfer y rhanbarth i'r tymor hir. Fodd bynnag, mae angen dull cyfunol llawn ar hyn gyda chefnogaeth gan lywodraeth y DU a byddwn yn edrych i weld hynny'n digwydd trwy waith ar Strategaeth Ddiwydiannol y DU. 

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod Cymru'n cael ei chyfran lawn o fuddsoddiad a chefnogaeth bolisi fel y gall ein diwydiant dur ffynnu am y tymor hir a gall ein cymunedau adfer ac wynebu dyfodol mwy sicr a llwyddiannus, ac edrychwn ymlaen at wneud datganiad llafar ar y mater hwn i'r Aelodau ar 29 Ebrill ar ôl dychwelyd o'r toriad.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad i gadw Aelodau yn hysbys o ddatblygiadau. Pe bai'r Aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.