Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru 

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 7 Hydref, cyflwynodd y Swyddfa Gartref welliant i’r Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a Phlismona, i ddisodli un o’r eithriadau presennol i gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gydag eithriad newydd.

Yr eithriad o dan sylw yw’r eithriad sy’n ymwneud â  “Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol”, a restrir o dan baragraff 12 o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Byddai gwelliant y Swyddfa Gartref yn disodli hyn â’r eithriad canlynol:
“Orders to protect people from behaviour that causes or is likely to cause harassment, alarm or distress”.

Mae’r Swyddfa Gartref yn haeru mai gwelliant canlyniadol yw hwn, ac mai unig swyddogaeth y gwelliant yw diweddaru’r eithriad er mwyn cydnabod bod y drefn ymddygiad gwrthgymdeithasol presennol wedi cael ei diddymu.

Rwyf yn anghytuno â’r Swyddfa Gartref.  Mae’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth a minnau wedi gwneud ein barn yn glir i Weinidogion y Swyddfa Gartref ac i Ysgrifennydd Gwladol Cymru.  Amgaeir llythyr y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth dyddiedig heddiw at y Gweinidog Gwladol dros Blismona a Chyfiawnder Troseddol, a’m llythyr innau at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, er gwybodaeth yr Aelodau.

Yn fy marn i, byddai eithriad disodli’r Swyddfa Gartref yn cael effaith sylweddol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol.   Effaith yr eithriad presennol yw nad yw gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBOs), o dan drefn bresennol Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.  

Effaith yr eithriad disodli arfaethedig yw y byddai pob gorchymyn neu unrhyw orchymyn i  amddiffyn pobl rhag ymddygiad sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod yn dod  y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.  Mae hyn yn gosod cyfyngiad ar bwerau’r Cynulliad, gan y byddai’n ei rwystro rhag deddfu’n sylweddol ynghylch unrhyw fath o orchymyn i amddiffyn pobl rhag ymddygiad sy’n achosi neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod, hyd yn oed mewn cyd-destunau datganoledig megis y gwasanaeth iechyd, ysgolion neu dai.

Mae Llywodraeth y DU o’r farn y gellir gwneud y gwelliant hwn i Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru heb gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Cynulliad. Rwyf yn anghytuno. Byddai’r gwelliant yn lleihau cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, ac ni ddylid bwrw ymlaen ag ef heb gytundeb y Cynulliad.  Bydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn gosod memorandum a chynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y mater hwn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig.