Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd gan Senedd y DU yn effeithio ar fywydau pobl ym mhob rhan o Gymru, ac rydym wedi brwydro i sicrhau bod llais y Senedd wedi cael ei glywed drwy gydol y broses ddeddfwriaethol. Mae'r Bil yn eang ei gwmpas ac mae'n cynnwys darpariaethau sy'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rydym wedi darparu gwybodaeth am y darpariaethau hynny sy'n dod o fewn cymhwysedd drwy Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a osodwyd gerbron y Senedd ar: 22 Mawrth 2021, 28 Mai 2021, 5 Tachwedd 2021, 20 Rhagfyr 2021, 7 Ionawr 2022 a 28 Chwefror 2022. Mae nifer y Memoranda a osodwyd yn adlewyrchu cymhlethdod y Bil. 

Bu’n broses hir gyda dadleuon yn cael eu cynnal yn y Senedd ar ddau Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, ar 18 Ionawr a 1 Mawrth 2022. Yn y dadleuon hyn, pleidleisiodd yr aelodau yn unol â'n hargymhellion yn y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol fel y nodir uchod, gan roi cydsyniad ar gyfer rhai darpariaethau yn y Bil sydd o fewn cymhwysedd y Senedd (megis y Ddyletswydd Trais Difrifol), a gwrthod cydsyniad ar gyfer cymalau eraill o fewn cymhwysedd. Cafodd y cymalau sy'n ymwneud â phrotestio a gwersylloedd diawdurdod eu gwrthod gan y Senedd, gan bwysleisio’r ymrwymiad i'r hawl i ymgynnull yn heddychlon a phrotestio, ac i sicrhau bod pobl o gefndiroedd Sipsiwn, Roma neu Deithwyr yn cael eu trin yn deg ac yn ystyriol.

Mae'n amserol yn awr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am gynnydd ehangach y Bil, ac am ein hymateb ninnau.

Ar 31 Mawrth 2022, dychwelodd y Bil i Dŷ'r Arglwyddi ar gyfer ystyried y gwelliannau y cytunwyd arnynt yn Nhŷ'r Cyffredin ar 28 Mawrth. Hwn oedd ail gam cyfnod ystyried gwelliannau terfynol y Bil, proses sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel ‘Ping Pong’. Pleidleisiodd Tŷ'r Arglwyddi o blaid derbyn rhai o welliannau Llywodraeth y DU, ond gwrthododd rai gwelliannau hefyd. Bydd y gwelliannau hynny a wrthodwyd yn destun dadl bellach yn awr.

Gwelliannau a dderbyniwyd gan Dŷ'r Arglwyddi ar 31 Mawrth 2022

Troseddau Bwyd

Cyflwynodd Llywodraeth y DU welliannau a oedd yn golygu y byddai modd rhoi pwerau plismona penodol o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 i swyddogion troseddau bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd a phersonau awdurdodedig eraill er mwyn mynd i'r afael â throseddau bwyd.

Yn sgil y gwelliannau hyn, bydd rhagor o orfodi mewn perthynas â throseddau sy'n gysylltiedig â bwyd ac maent yn cael eu croesawu.

Troseddau Casineb

Cyflwynodd Llywodraeth y DU gymal newydd yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i lunio ymateb i'r argymhelliad perthnasol yn adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar gyfreithiau troseddau casineb, ac i gyhoeddi’r ymateb hwnnw.

Mae hyn yn dilyn ‘gwelliant Newlove’ fel y'i gelwir mewn perthynas â gwneud casineb at fenywod yn drosedd gasineb. Pleidleisiodd Tŷ'r Cyffredin o blaid gwrthod gwelliant Newlove ar 22 Chwefror, ond, mewn ymateb, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno’r gwelliant newydd hwn. Pleidleisiodd Tŷ'r Arglwyddi o blaid derbyn y gwelliant hwn ar 31 Mawrth.  

Rwy’n siomedig â’r canlyniad o ran y gwelliant newydd hwn. Rwyf wedi dweud eisoes fod rhaid trin casineb at fenywod fel trosedd gasineb ac mae hyn yn gyson â'n hymagwedd at Drais yn Erbyn Menywod a Merched. Croesewir cynnal adolygiad o argymhelliad Comisiwn y Gyfraith. Fodd bynnag, nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell i ymateb i fater hynod ddifrifol, sydd angen mynd i’r afael ag ef ar unwaith. Pe bai casineb at fenywod wedi cael ei wneud yn drosedd gasineb fel rhan o'r Bil, byddai cyfle wedi codi i ategu’r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud i ddileu trais yn erbyn menywod a merched ac i fynd i'r afael â diwylliant gwrth-fenywod sydd wedi'i wreiddio’n ddwfn. 

Cymalau sy'n destun dadl bellach

Ceisiodd Llywodraeth y DU wneud gwelliannau pellach i’r cymalau 'Gosod amodau ar orymdeithiau cyhoeddus', 'Gosod amodau ar gynulliadau cyhoeddus' a 'Gosod amodau ar brotestiadau un person' yn y Bil. Mae'r newidiadau hyn yn golygu bod y trothwy i'r heddlu ymyrryd mewn protest bellach wedi cynyddu, fel bod yn rhaid i’r heddlu yn awr, er mwyn gweithredu, ddangos y gall y brotest achosi dychryn neu ofid i berson, yn hytrach nag anesmwythyd difrifol, dychryn neu ofid. Bydd y gwelliannau yn mynd yn ôl i Dŷ'r Cyffredin lle y byddant yn destun dadl ar 25 Ebrill, cyn iddynt gael eu hystyried ymhellach yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 26 Ebrill.

Mae fy marn i am y cymalau hyn yn gwbl glir ac nid yw wedi newid. Mae'n hanfodol bod gan bobl yr hawl o hyd i leisio eu barn a mynegi eu pryderon yn rhydd, mewn ffordd ddiogel a heddychlon. Cafodd fy marn i ei hadleisio’n glir pan gynhaliwyd dadl ar y Bil ar 18 Ionawr a 1 Mawrth 2022 a phleidleisiodd y Senedd yn unol â'm hargymhelliad i wrthod y cymalau hyn.

Mae'r Senedd eisoes wedi cynnal dadl ar y Bil a phleidleisio arno ddwywaith, gan bleidleisio ar bedwar cynnig. O ganlyniad i amseriad toriad y Senedd ar gyfer y Pasg ac amserlen Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil, nid oes rhagor o gyfle i gynnal dadl ystyrlon arall mewn pryd i ddylanwadu ar ganlyniad y Bil cyn iddo gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r materion a'r pryderon a fynegwyd gennym mewn perthynas â’r Bil wedi eu codi a'u trafod gyda Llywodraeth y DU ac mae fy safbwynt i ynghylch y Bil yn parhau'r un fath. Rwy’n fodlon bod safbwynt y Senedd ynghylch y Bil hwn wedi'i fynegi, yn enwedig yn y dadleuon a gynhaliwyd ar 18 Ionawr a 1 Mawrth 2022. Byddaf yn parhau i sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed a'i ystyried wrth i'r Bil symud tuag at gael y Cydsyniad Brenhinol, ac ymlaen i gael ei weithredu.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.