Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n gwneud y datganiad ysgrifenedig hwn wrth i Dŷ'r Cyffredin ddechrau ar Gyfnod Adrodd Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael).

Mae'r Bil fel y mae ar hyn o bryd yn ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Byddai'n golygu bod y cyfyngiadau presennol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn syrthio o'r neilltu wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn cael eu disodli â chyfres newydd o gyfyngiadau ar gymhwysedd deddfwriaethol a fyddai'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Rydym wedi dweud yn gyson nad oes unrhyw obaith y bydd Llywodraeth Cymru yn argymell cydsynio â'r Bil hwn fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno â nod cyffredinol y Bil Ymadael, sef trosglwyddo cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ddeddfwriaeth ddomestig o'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi ceisio gweithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth y DU i ddiwygio'r Bil er mwyn sicrhau ei lwyddiant.

Rydym yn gresynu nad yw'r Llywodraeth, er gwaethaf ymrwymiad Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, wedi cyflwyno unrhyw welliant i Gymal 11 sydd, fel y mae ar hyn o bryd, yn gwbl annerbyniol i ni.

Fe gyhoeddom gyfres o welliannau ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, a phe bai rheiny wedi'u derbyn gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod cyfnodau diwygio'r Bil yn Nhŷ'r Cyffredin, byddai hynny wedi caniatáu i ni argymell y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol gydsynio i'r Bil.

Byddwn yn parhau i drafod gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch ffyrdd y gellid diwygio'r Bil wrth iddo barhau ar ei daith drwy Ddau Dŷ'r Senedd - yn arbennig o ran Cymal 11 - er mwyn sicrhau ei fod yn ateb y diben wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a pharchu datganoli yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Y strategaeth hon, ynghyd â'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn pleidleisio arno yn ddiweddarach eleni, yw'r drefn yr ydym yn ei ffafrio o hyd ar gyfer sicrhau bod Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn addas i'r diben ac amddiffyn setliad datganoli Cymru.

Fodd bynnag, dros yr wyth mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu Bil Parhad y gellir ei ddefnyddio os daw yn glir na fydd yn bosib diwygio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) i sicrhau ei fod yn adlewyrchu'r setliad datganoli yn gywir.

Os na fydd ein trafodaethau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn arwain at y gwelliannau angenrheidiol i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rwy’n bwriadu cyflwyno ein Bil Parhad i'r Llywydd cyn diwedd y mis hwn, er mwyn iddi wneud penderfyniad yn ei gylch.