Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bob blwyddyn, mae GIG Cymru yn ymdrechu i gynyddu'r amddiffyniad yn erbyn ffliw tymhorol i'r rheini yr argymhellir eu bod yn cael eu brechu rhag y ffliw. Yn ystod tymor ffliw 2017-18, cafodd ychydig dros 58,000 yn fwy o bobl mewn grwpiau risg eu brechu nag yn ystod y tymor blaenorol. Gwelwyd cynnydd o 5% yn nifer y plant 2 a 3 oed a gafodd eu brechu, a chafodd blwyddyn ychwanegol o blant ysgol gynradd (8 oed) ei chynnwys yn y rhaglen.

Wrth inni baratoi ar gyfer y tymor ffliw bob blwyddyn, mae'n bwysig inni sicrhau bod y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor gadarn â phosibl er mwyn eu galluogi i ymdopi'n well yn ystod cyfnodau o bwysau tymhorol eithriadol. Mae staff gofal iechyd y GIG eisoes yn cael cynnig brechiad rhag y ffliw gan eu cyflogwyr fel rhan o wasanaethau iechyd galwedigaethol, gyda mwy a mwy yn derbyn y brechiad o flwyddyn i flwyddyn. Yn ystod tymor ffliw 2017-18, gwelwyd cynnydd o 5% yn nifer staff y GIG a gafodd eu brechu, gyda phedwar bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yn rhagori ar y targed o 60%. Cafodd y targed ei gynyddu 10% ar gyfer tymor 2017/18, ac mae bellach yn 60%.

Gwelwyd bod brechu staff yn effeithiol iawn wrth atal heintiau rhag lledaenu a lleihau nifer y cleifion sy'n marw mewn lleoliadau gofal. Gall hefyd helpu i sicrhau parhad busnes drwy leihau salwch sy'n ymwneud â'r ffliw ymysg staff a'r angen i ddarparu staff locwm. Mae gan y sector gofal cymdeithasol rôl hanfodol i'w chwarae o ran osgoi derbyniadau i'r ysbyty yn ystod y gaeaf, yn arbennig ymysg pobl hŷn. Yn ystod gaeaf y llynedd hyd at ddiwedd mis Mawrth 2018, cafwyd 71 adroddiad am achosion o'r ffliw yng Nghymru, ac roedd 42 (60%) o'r rheini wedi'u cofnodi mewn cartrefi gofal. Mae astudiaethau wedi dangos bod nifer y staff mewn cartrefi gofal sy'n cael eu brechu rhag y ffliw yn isel, a'u bod yn wynebu risg uwch o ddal y feirws. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn argymell bod gweithwyr gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu brechu rhag y ffliw i helpu i amddiffyn cleifion a phreswylwyr agored i niwed yn eu gofal rhag effeithiau'r ffliw.

Hyd yma, cyflogwyr unigol oedd yn gyfrifol am gynnig brechlyn ffliw i staff gofal cymdeithasol. Er bod cyfraddau uchel o breswylwyr yn cael eu brechu rhag y ffliw, gall y feirws ledaenu'n rhwydd mewn cartrefi gofal a chael ei drosglwyddo o staff i'r preswylwyr pan fo gan yr aelod o'r staff symptomau ysgafn, neu ddim symptomau o gwbl. Mae hyn yn rhannol oherwydd wrth i bobl fynd yn hŷn, nid yw eu system imiwnedd yn ymateb gystal i frechlynnau. Oherwydd hynny, mae brechu staff sy'n gofalu am bobl hŷn a bregus yn bwysicach fyth. Ar gyfer gaeaf 2018-19 felly, rwyf wedi penderfynu cynnig brechlyn rhag y ffliw i staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal a nyrsio preswyl i oedolion, heb unrhyw gost i'w hunain na'u cyflogwyr. Bydd hyn yn digwydd drwy fferyllfeydd cymunedol a’r GIG fydd yn ysgwyddo’r gost.

Yn ogystal â hyn, bydd ein rhaglen i frechu plant yn cael ei hehangu’n sylweddol. Y gaeaf nesaf, bydd y rhaglen blant yn ehangu i gynnwys dwy flynedd ysgol ychwanegol, sef blynyddoedd 5 a 6. Golyga hyn y bydd pob plentyn oedran cynradd o'r dosbarth derbyn i flwyddyn 6 yn cael cynnig brechlyn ffliw o 2018-19 ymlaen.

Mae hefyd yn bwysig iawn i bobl sy'n wynebu risg uwch o ddioddef cymhlethdodau oherwydd y ffliw, gan gynnwys menywod beichiog, y rheini sy'n 65 oed a hŷn a phobl sy'n dioddef o gyflyrau iechyd hirdymor, gael eu brechu. Yn ystod 2017-18, cafodd mwy o bobl nag erioed yn y grwpiau hyn eu brechu rhag y ffliw. Mae hynny'n newyddion da, ond ni fedrwn laesu ein dwylo. Bydd ein hymgyrch ar gyfer 2018-19 yn parhau i bwysleisio gwir fuddion brechu pobl rhag y ffliw.