Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn 2022, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth er mwyn gwella gwasanaethau a chymorth i unigolion niwrowahanol a’u teuluoedd. Rydym wedi estyn y rhaglen tan fis Mawrth 2027, gan fuddsoddi cyllid ychwanegol gwerth £13.7m i wella canlyniadau pobl.

Dyrannodd y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant gyllid gwerth £5.6m o gyllid y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth ar gyfer 2025-26 i ddileu amseroedd aros tair blynedd o hyd ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant ledled Cymru erbyn diwedd mis Mawrth. Er nad ydym wedi cael data diwedd blwyddyn eto, mae byrddau iechyd ar y trywydd iawn i gyflawni’r uchelgais hon a bydd rhai wedi sicrhau cynnydd pellach, gan leihau yr amseroedd aros i lai na dwy flynedd.

Rwyf wedi nodi blaenoriaethau’r Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth ar gyfer 2026-27. Wrth i’r galw am asesiadau plant barhau i gynyddu, bydd byrddau iechyd yn parhau i ganolbwyntio ar leihau amseroedd aros. Bydd byrddau iechyd yn derbyn cyfran o gyllid y Rhaglen Gwella Gwasanaethau Niwrowahaniaeth gwerth £5.6m er mwyn cynnal y safbwynt cenedlaethol o ddileu arosiadau tair blynedd o hyd ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant, gan hefyd roi mwy o hyblygrwydd i’r byrddau iechyd hynny sydd eisoes yn cynnal amseroedd aros o lai na dwy flynedd. 

Bydd yn ofynnol i bob bwrdd iechyd gyflwyno cynlluniau cyflawni. Bydd disgwyl iddynt hefyd gydweithio a rhannu dysgu ac arferion da i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau mwy effeithlon a chyson i blant a phobl ifanc niwrowahanol a lleihau amrywiadau ledled Cymru. 

Byddwn yn hyrwyddo’r defnydd o adnoddau AI Scribe i gynnal y gwaith o gwblhau asesiadau, pan fo hynny’n briodol, gan adeiladu ar gynlluniau peilot llwyddiannus ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Ar yr un pryd, bydd Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn datblygu safonau dilysu rhestrau aros a chanllawiau Rhwng Atgyfeirio a Thriniaeth cenedlaethol ar gyfer llwybrau niwrowahaniaeth. 

Mae grŵp gorchwyl a gorffen ADHD oedolion wedi’i sefydlu ac mae’n datblygu opsiynau i wella gwasanaethau i oedolion sy’n aros am asesiadau. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar gytundebau gofal a rennir.