Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers mis Hydref 2023, yn dilyn ymosodiadau Hamas, mae Israel wedi gosod blocadau parhaus ar Gaza.

I ddechrau, rhwystrodd blocadau Israel yr holl fwyd, dŵr, meddyginiaeth, tanwydd a thrydan cyn i'r cyfyngiadau gael eu llacio'n rhannol i ganiatáu i gymorth cyfyngedig fynd i mewn i Gaza. Er gwaethaf rhywfaint o fynediad dyngarol, parhaodd Israel i osod cyfyngiadau llym trwy gydol 2024 a llacio cyfyngiadau yn ystod y cadoediad byrhoedlog yn gynharach eleni. Fodd bynnag, ar ôl chwalu'r cadoediad, ailsefydlwyd gwaharddiad llwyr ar gyflenwadau cymorth dyngarol i mewn i Gaza ym mis Mawrth 2025.

Mae'r blocâd wedi creu amodau newyn sydd wedi'u gwaethygu gan ymosodiadau awyr ar y seilwaith bwyd, gyda sefydliadau cymorth yn adrodd bod marchnadoedd yn wag ac nad yw plant yn cael digon o faeth. Mae Israel wedi rhoi amod y byddant yn codi'r blocâd os caiff gwystlon a gymerwyd gan Hamas eu dychwelyd.  Mae plant yn Gaza mewn angen dybryd am gymorth heddiw. Mae'r diffyg cymorth dyngarol sy'n cyrraedd plant yn Gaza yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru, a dyna pam y gwnaethom roi cyfanswm o £200,000 i apêl y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC) ac rydym mewn trafodaethau ynghylch sut y gellir defnyddio'r rhodd honno yn y ffordd orau.   

Heb dderbyn unrhyw gyflenwadau allanol, mae elusennau DEC bellach yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddibynnu, lle bynnag y bo modd, ar y nwyddau cyfyngedig sydd ar gael o farchnadoedd lleol a darparu cymorth arian parod hanfodol a chymorth seicolegol. Mae eu staff meddygol hefyd yn cefnogi cymaint o bobl ag y gallant, hyd yn oed gyda chyflenwadau meddyginiaeth yn ddifrifol o isel.

Bydd eu gwaith yn dod yn anoddach yn y dyddiau a'r wythnosau nesaf heb dderbyn mwy o gymorth. Dyma eisoes y cyfnod hiraf a welwyd ble nad yw cymorth wedi'i ganiatáu i Gaza ers i'r gwrthdaro waethygu ym mis Hydref 2023. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi ei ddisgrifio fel "y sefyllfa ddyngarol waethaf" ers dechrau'r argyfwng.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i alw am godi'r blocâd ar y cymorth yn Gaza, ac i bob parti ail-ddechrau'r trafodaethau ar gyfer cadoediad i gael y gwystlon allan ac i sicrhau diwedd parhaol i'r gwrthdaro, gan arwain at sefyllfa o ddwy wladwriaeth a heddwch parhaol a fydd yn rhoi diwedd ar ddioddefaint y rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan y gwrthdaro hwn.