Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar drothwy 2023, rwy'n falch o gael rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am flwyddyn thematig newydd ac am y gweithgareddau ymgyrchu cysylltiedig sy'n cael eu gwneud gan Croeso Cymru. Fel rhan o’r brand Cymru Wales, bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar gyfnod prysur o ymgyrchu ar gyfer yr hydref, ac ymgyrch marchnata twristiaeth ryngwladol lwyddiannus ar gyfer twristiaeth a'r gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o’r brand yn ystod Cwpan y Byd FIFA.

Drwy ddefnyddio’r gair Cymraeg Llwybrau yn deitl i’r ymgyrch, rydym yn parhau â’r gwaith i hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn ymgyrchoedd Croeso Cymru i gyflwyno Cymru fel cyrchfan croesawgar a chynhwysol, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn darparu amrediad helaeth o brofiadau. Mae hefyd yn bodloni ein ymrwymiad strategol yn Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025 i gyflwyno blwyddyn thematig bob dwy flynedd, i roi digon o amser i’r diwydiant baratoi rhwng blynyddoedd.

Mae busnesau yn parhau i wynebu heriau tymor byr a hirdymor. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi sector twristiaeth a lletygarwch sy’n ffynnu sydd, gyda diwydiannau cysylltiedig, yn cynrychioli dros ddegfed rhan o weithlu Cymru.

Drwy weithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, mae'r thema'n cynnig cyfle i ystod eang o gynhyrchion, busnesau a chymunedau ddod at ei gilydd i gydweithio ar becynnau wedi'u teilwra a fydd yn addas ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd, ac ar gyfer cyllidebau a diddordebau gwahanol a ffyrdd gwahanol o fyw.

Mae Croeso Cymru wedi bod yn paratoi rhanddeiliaid ar gyfer y flwyddyn hon mewn nifer o ffyrdd. Hyd yma mae'r thema wedi cael croeso cynnes ac mae llawer o bartneriaid wrthi eisoes yn cynllunio’u gweithgarwch cysylltiedig eu hunain.

Mae adnoddau i ategu eu gweithgareddau’n cynnwys canllaw i'r diwydiant a logos i'w lawrlwytho, canllawiau ar gynyddu cyfleoedd drwy Croeso Cymru a phecyn cymorth ar gynulleidfaoedd presennol sydd wedi cael eu rhannu’n helaeth. Mae’r olaf yn seiliedig ar ymchwil a gwybodaeth farchnata, ac mae’n cynnwys y cynulleidfaoedd sydd fwyaf tebygol o ymweld â Chymru. 

I ddathlu lansio Llwybrau, Wales by Trails, yn ogystal â darparu deunydd ar y teledu ac ar fideo ar alw, ac ar gyfryngau digidol y telir amdanynt, byddwn yn darparu deunyddiau printiedig hefyd, yn ymgymryd â gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus ac yn trefnu hysbysebion Oddi Cartref (OOH) mewn mannau allweddol (fel Gorsaf Waterloo). Yn ogystal, bydd deunyddiau newydd ar y we a gweithgareddau organig ychwanegol ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys gwaith gyda dylanwadwyr. Bydd hyn oll yn digwydd ochr â rhaglen barhaus rhagweithiol a fydd yn targedu gweithredwyr teithiau domestig a rhyngwladol i werthu mwy o lwybrau a gwyliau Cymru.

Yn ogystal, gan gydweithio gyda Visit Britain, mae Croeso Cymru wedi lansio TXGB yng Nghymru yn ystod yr hydref – platfform busnes i fusnes ar-lein sy'n rhoi'r opsiwn i fusnesau gael gwell mynediad at gynulleidfaoedd domestig a rhyngwladol drwy sianeli gwerthu mewn un farchnad, a hynny ar gyfraddau is o gomisiwn.

Bydd hysbyseb deledu Llwybrau, Wales by Trails, sy’n gwahodd ymwelwyr posibl i fod yn “Trail Takers" yn cael ei darlledu yn y DU ac yng Nghymru y mis hwn, gan gynnwys fersiwn Gymraeg. Cafodd y trac sain ei ysgrifennu gan y cyfansoddwr o Gymru Siôn Trefor, ac mae’n adrodd hanes pobl wrth iddynt baratoi i ddilyn llwybrau. Maent yn cynnwys amrywiaeth o gynhyrchion sy’n apelio at ddiddordebau gwahanol ac a all ysgogi pobl i ddilyn llwybr penodol e.e., gwylio dolffiniaid, cerdded, beicio mynydd, mathau gwahanol o lety, bwyta allan a threftadaeth.

Yr edefyn a fydd yn rhedeg drwy’r holl waith fydd y gwahoddiad i ymwelwyr a thrigolion Cymru archwilio llwybrau epig Cymru.

Dyma rai enghreifftiau o'r llwybrau sydd ar gael ar gyfer 2023 -

Loving Welsh Food, Caerdydd

Siân Roberts yw perchennog Loving Welsh Food, busnes sy'n hyrwyddo bwyd a diod Cymru drwy deithiau bwyd, gweithdai coginio a chyflwyniadau am fwyd. Mae ei theithiau bwyd o amgylch Caerdydd a lleoliadau eraill yng Nghymru yn dangos sefydliadau bwyd annibynnol i dwristiaid ac i bobl leol, gan greu ymdeimlad cryf o le.

Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoli dros 550km o lwybrau cerdded, dros 600km o lwybrau beicio a beicio mynydd, bron 100km o lwybrau rhedeg a thua 30km o lwybrau marchogaeth – i gyd ag arwyddion sy’n dangos y ffordd.

Awyr Dywyll – Mynyddoedd Cambria

Mae Llwybr Seryddol Mynyddoedd Cambria yn llwybr hunan-dywys sy'n cysylltu rhai o'r lleoliadau Awyr Dywyll gorau ym Mynyddoedd Cambria (ac o bosibl yn y byd). Mae'n llwybr hygyrch sy'n igam-ogamu am ryw 50 milltir o'r de i'r gogledd, gan gynnig cyfleoedd gwych i weld y Llwybr Llaethog, cawodydd sêr gwib a'r Orsaf Ofod Genedlaethol yn y nos, yn ogystal â golygfeydd seryddol hardd eraill.

Bydd Croeso Cymru yn parhau i fonitro perfformiad ymgyrchoedd defnyddwyr yn ystod y misoedd nesaf, ac yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth am y farchnad ac adborth gan y diwydiant i deilwra ac addasu eu rhaglen waith yn ôl yr angen.