Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Flwyddyn ar ôl y newid pwysig i’r gyfraith i roi terfyn ar gosbi plant yn gorfforol, mae nifer o becynnau cymorth magu plant penodol ledled Cymru yn helpu i hybu newidiadau cadarnhaol i fywyd teuluol a chodi ymwybyddiaeth o’r ddeddfwriaeth newydd.

Daeth y gyfraith, sy’n amddiffyn plant a’u hawliau, i rym ar 21 Mawrth 2022 ac mae’n rhoi’r un amddiffyniad rhag ymosodiad i blant ag oedolion yng Nghymru. Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r sail i bolisi Llywodraeth Cymru ar blant ac mae gwahardd cosbi plant yn gorfforol yn cyd-fynd ag erthygl 19 y Confensiwn – yr hawl i gael eu hamddiffyn rhag pob math o drais. Ymunodd Cymru â mwy na 60 o wledydd ar draws y byd sydd wedi gwahardd cosbi plant yn gorfforol.

Mae gwaith ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi ciplun o safbwyntiau ar ddechrau 2022, ychydig cyn i’r gyfraith ddod i rym. Mae’n dangos bod 71% o rieni/gofalwyr plant saith oed neu iau yn anghytuno ei bod hi weithiau’n angenrheidiol smacio plentyn, o gymharu â 63% a arolygwyd yn 2021.

Canfu’r adroddiad hefyd y bu cynnydd mewn ymwybyddiaeth o’r gyfraith a chefnogaeth iddi ers 2018, gyda 59% o’r ymatebwyr yn adrodd eu bod o blaid y newid i’r gyfraith o gymharu â 38% yn 2018.

Mae rhieni/gofalwyr cymwys y canfuwyd eu bod wedi torri’r gyfraith yn cael cymorth gan weithwyr magu plant proffesiynol yn rhan o gynllun cymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys. Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu’r rhieni i osgoi aildroseddu. Yn ystod y chwe mis ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym, roedd 55 o atgyfeiriadau am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i’r llys gan yr heddlu.

Mae’r rhai sy’n gweithio gyda rhieni wedi canmol y ddeddfwriaeth newydd am roi eglurder ynglŷn â chosbi plant yn gorfforol, a oedd yn faes niwlog o’r blaen.

Mae’r ddeddfwriaeth newydd wedi bod yn amhrisiadwy wrth amlygu effaith cosbi corfforol, ac mae’r adnoddau ychwanegol a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer cymorth magu plant wedi’i deilwra hefyd wedi cael eu croesawu.

Nid yw magu plant bob amser yn rhwydd. Rydym wedi canolbwyntio ar fagu plant yn gadarnhaol, ac yn parhau i wneud hynny. Mae ein hymgyrch Magu plant. Rhowch amser iddo yn fan cychwyn gwych i rieni.

Rwy’n falch o weld bod y cymorth rydym yn ei gynnig i rieni yn gwneud gwahaniaeth. Gyda phob blwyddyn sy’n mynd heibio, bydd mwy o blant a theuluoedd yn gweld budd y ddeddfwriaeth a’r gefnogaeth y mae’n ei rhoi i hawliau plant yng Nghymru.

Does dim lle i gosbi corfforol yng Nghymru.