Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o Gytundeb Gŵyl Dewi 2015, dywedodd Llywodraeth y DU y byddai’n rhoi pwerau i Lywodraeth Cymru i gyhoeddi bondiau ar gyfer buddsoddi cyfalaf, ar ben y pwerau benthyca cyfalaf a nodir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2016.

Yn gynharach eleni, ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ofyn i Lywodraeth y DU gyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol i alluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi bondiau ar gyfer gwariant buddsoddi cyfalaf.

Mae Llywodraeth y DU wedi gosod Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Amrywio Pwerau Benthyca) 2018 yn Nhŷ’r Cyffredin. Os caiff ei gymeradwyo, bydd yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2018.

Bydd y pŵer i gyhoeddi bondiau yn rhoi’r amrywiaeth lawn o ddulliau benthyca i Lywodraeth Cymru at y dyfodol, gan sicrhau y gallwn barhau i fuddsoddi yn ein cynlluniau seilwaith uchelgeisiol ar adeg pan fo’n cyllidebau cyfalaf yn dal i grebachu.

Yn unol â’r egwyddor sy’n sail i’n dull gweithredu o ran cyfalaf, byddwn wastad yn gwneud y defnydd mwyaf posibl o un o’r mathau lleiaf drud o gyfalaf cyn troi at ffynonellau eraill o gyfalaf ad-daladwy.

Rhaid i fondiau – fel mathau eraill o fenthyca – gael eu had-dalu a bydd hyn yn effeithio ar faint o refeniw a fydd gan Lywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau o ddydd i ddydd.

Mae ein cynlluniau gwario cyfalaf, a nodwyd yng Nghyllideb ddrafft 2019-20 a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn, wedi’u seilio ar ddefnyddio £250m o fenthyca cyfalaf dros y cyfnod dwy flynedd rhwng 2019-20 a 2020-21. Bydd y lefel hon o fenthyca yn ein helpu i gyflawni’r blaenoriaethau uchelgeisiol o ran buddsoddi cyfalaf  a nodwyd yn adolygiad canol cyfnod y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.