Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae'r Cyd-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) wedi dweud y dylid cynnig trydydd dos o frechlyn COVID-19 cynradd i unigolion, 12 oed neu hŷn, a oedd yn imiwnoataliedig iawn ar adeg ei dos cyntaf neu ail o’r brechlyn, neu’r ddau. Y rheswm dros hyn yw na fydd rhai unigolion sy’n ddifrifol imiwnoataliedig oherwydd cyflyrau iechyd isorweddol neu triniaethau meddygol penodol yn cyrraedd imiwnedd llawn o ganlyniad i’r ddwy frechiad gyntaf o’r brechlyn COVID-19.  Mae angen amddiffyniad ychwanegol ar yr unigolion bregus hyn ac rwy'n croesawu'r cyngor hwn.

Mae cyngor y JCVI yn manylu ar y grwpiau a fydd yn gymwys a bydd ein GIG yng Nghymru yn gweithio'n gyflym i nodi unigolion cymwys y bydd eu Byrddau Iechyd yn cysylltu â nhw. Bydd y penderfyniad ar amseriad y trydydd dos yn bwysig i rai cleifion, a bydd yn cael ei benderfynu gan eu clinigwyr arbenigol. Bydd eu apwyntiad ar adeg briodol yn ystod eu cynllun triniaeth. Nid oes angen cysylltu â'ch bwrdd iechyd na'ch clinigwyr i wirio os yr ydych yn gymwys. Bydd y gwaith yn dechrau ar unwaith i nodi a chynllunio i gleifion gael eu brechu a bydd cyfathrebu gan Fyrddau Iechyd yn dilyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Y brechlyn COVID-19 yw'r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y feirws. Anogir unrhyw un nad yw wedi cael eu brechlyn eto i fanteisio ar eu cynnig dos sylfaenol cyn inni symud i ddechrau'r ymgyrch atgyfnerthu. Os nad ydych wedi cael eich brechiad eto, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i gael eich brechlyn yma.  

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.