Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein diweddariadau ar raglen frechu COVID-19.

Mae’n bleser gennyf weld pobl yn dal i ddod ymlaen i gael eu dos cyntaf a’u dos atgyfnerthu o’r brechlyn. Ar 2 Mawrth 2022, roedd 91.6% o bobl wedi cael eu dos cyntaf, roedd 86.8% wedi cael eu hail ddos a 71.5% wedi dod ymlaen i gael y dos atgyfnerthu. Mae dros 75% o bobl ifanc 16-17 oed yng Nghymru nawr wedi cael o leiaf un dos o’r brechlyn COVID-19. Mae hyn yn gyflawniad aruthrol ac yn bwysig iawn oherwydd bod y brechlyn yn cynnig lefel dda o amddiffyniad yn erbyn y feirws.

Mae sesiynau galw i mewn yn parhau i fod ar gael gan Fyrddau Iechyd ar draws Cymru ar gyfer pob dos o’r brechlyn COVID-19 ar gyfer unigolion 12 oed ac hŷn. Mae manylion cyswllt ar gyfer byrddau iechyd yma a gwybodaeth ar eu cyfryngau cymdeithasol. Gall ein timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y brechlyn a’ch cefnogi i gael eich brechu.

Yn ystod y toriad, cyhoeddais ein strategaeth frechu COVID-19 ar gyfer 2022. Bydd y rhaglen yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu’r bobl fwyaf agored i niwed ac mae byrddau iechyd nawr yn cynllunio i flaenoriaethu cynnig brechlyn atgyfnerthu’r gwanwyn i unigolion dros 75 oed, preswylwyr hŷn mewn cartrefi gofal a’r bobl fwyaf agored i niwed yn yr wythnosau nesaf.

Mae byrddau iechyd hefyd yn gweithio ar gynnig y brechlyn i bob plentyn rhwng pump ac 11 oed. Fel yr amlinellais dair wythnos yn ôl, byddwn yn cynnig brechlyn i blant rhwng pump ac 11 oed yn nes ymlaen y mis hwn. Cynnig rhagofalus yw hwn i wella eu himiwnedd yn erbyn COVID-19 difrifol rhag ofn y daw ton arall yn y dyfodol, ac i leihau’r tarfu ar eu haddysg.  

Rwy’n dal i fod wedi ymrwymo i sicrhau na fydd neb yn cael ei adael ar ôl ac i annog pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn. Mae llwyddiant ein rhaglen frechu wedi newid hynt y pandemig er gwell. Mae pob brechlyn a rown yn helpu i Ddiogelu Cymru.