Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi cael cyngor terfynol gan y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI) am frechlynnau Covid-19 i blant rhwng pump ac 11 oed nad ydynt yn cael eu hystyried fel plant sy’n wynebu risg glinigol.

Mae plant yn y grŵp oedran hwn sy'n cael eu dosbarthu fel rhai sy’n wynebu risg glinigol eisoes yn cael cynnig y brechlyn ac mae mwy nag un o bob pedwar eisoes wedi manteisio ar y cynnig.

Bydd cyngor y JCVI yn cael ei gyhoeddi maes o law. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac yn diolch i’r JCVI am graffu ar y wyddoniaeth a’r dystiolaeth ac am ddatgan ei gyngor mewn ffordd ofalus ac ystyriol. Ein bwriad, fel y mae wedi bod ers dechrau’r pandemig, yw dilyn y dystiolaeth glinigol a gwyddonol.

Wrth dderbyn y cyngor hwn, byddaf yn gofyn i’r byrddau iechyd ystyried mater tegwch yn ofalus o fewn eu cynllunio gweithredol. Byddwn yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd i sicrhau bod gwybodaeth ffeithiol a dibynadwy sy’n briodol i oedran ar gael am fanteision a risgiau posibl brechu ar gyfer yr ystod oedran hon.

Byddwn yn annog pob teulu sydd â phlant rhwng pump ac 11 oed, nad ydynt mewn unrhyw grwpiau risg glinigol, i fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael gwybodaeth am frechu ac i ddechrau sgwrs ynghylch a ydynt eisiau manteisio ar y cynnig hwn.  

Byddwn yn cyhoeddi diweddariad o’n Strategaeth Frechu yr wythnos nesaf, a fydd yn nodi rhagor o fanylion am y cynnig, unwaith y bydd cyngor y JCVI wedi’i gyhoeddi.

Brechu yw'r peth pwysicaf y gallwn ei wneud i amddiffyn ein hunain a'n plant rhag salwch. Mae’n atal hyd at dair miliwn o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.