Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel y gwyddom, y cam gorau y gall pobl ei gymryd i ddiogelu eu hunain rhag COVID-19 yw cael y brechiad, ac mae'n dda gallu nodi bod 70% o'r rheini sy'n gymwys bellach wedi cael dos atgyfnerthu COVID-19 yng Nghymru. Mae pob brechiad a roddir yn helpu i ddiogelu Cymru. Heddiw, fel rhan o'i adolygiad diweddaraf o'r rhaglen frechu, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi datganiad sy'n argymell dos atgyfnerthu ychwanegol yn y gwanwyn i'n hunigolion mwyaf agored i niwed.

Fel strategaeth ragofalus, mae'r Cyd-bwyllgor wedi argymell ail ddos atgyfnerthu yn y gwanwyn ar gyfer:

  • oedolion 75 oed a throsodd
  • preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion imiwnoataliedig 12 oed a throsodd (fel y'u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd)

Wrth wneud yr argymhelliad hwn, ystyriwyd y data sydd ar gael yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’r data hyn yn awgrymu bod imiwnedd pobl hŷn yn fwy tebygol o ostwng o ganlyniad i leihad yng ngallu’r system imiwnedd i ymateb yn effeithiol i heintiau neu frechlynnau, a’u bod yn llawer mwy tebygol o gael salwch difrifol os byddant yn cael eu heintio. Yn ymarferol, oherwydd eu bod wedi'u blaenoriaethu ar gyfer cael eu brechu ar ddechrau'r rhaglen frechu rhag COVID-19, pobl hŷn sydd hefyd bellaf yn awr o safbwynt amser o’r adeg pan gawsant eu dos diwethaf o’r brechlyn. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac wedi gofyn i fyrddau iechyd gynllunio ar gyfer pryd y gallant ddechrau rhoi’r brechiadau. Mae’r byrddau iechyd eisoes yn bwriadu cynnig brechiad i bob plentyn pump i un ar ddeg oed o ganol mis Mawrth ymlaen. Byddant yn awr hefyd yn ystyried yr angen i flaenoriaethu brechiad atgyfnerthu yn y gwanwyn i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r bygythiad i unigolion ac i gymunedau iechyd yn sgil COVID-19 yn ei anterth yn ystod tymor y gaeaf – dyna’r sefyllfa o hyd. At ddibenion cynllunio tymor hwy, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi dweud hefyd yr awgrymir cynnal rhaglen o frechiadau yn hydref 2022 i bobl sydd mewn mwy o berygl o gael salwch difrifol os byddant yn dal COVID-19, fel y rheini sy’n hŷn a’r rheini sy’n perthyn i grwpiau risg clinigol. Bydd union fanylion rhaglen yr hydref ar gael yn ddiweddarach. Wrth i’r pandemig COVID-19 symud ymhellach tuag at fod yn endemig yn y DU, bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn parhau i adolygu'r rhaglen frechu ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu cyngor arbenigol.

Wrth inni barhau i gyflwyno ein rhaglen brechiadau atgyfnerthu lwyddiannus, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un sydd angen dos cyntaf, ail ddos neu ddos atgyfnerthu i gael eu brechu. Mae byrddau iechyd wrthi'n cysylltu ag unrhyw unigolion nad ydynt wedi gallu manteisio ar eu cynnig o frechiad atgyfnerthu. Fel arfer, rwy’n hynod ddiolchgar i'r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.