Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae'r datganiad hwn yn rhoi barn Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i Reoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (Rheoli a Buddsoddi Cronfeydd) 2009. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys cynigion i gyfyngu ar hawliau awdurdodau lleol i roi'r gorau i fasnach a buddsoddiadau y maent yn eu hystyried yn anfoesol, lle bo'r rhain yn mynd yn groes i bolisi tramor y DU. 

Mae'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn bwriadu cyhoeddi canllawiau statudol ar bolisïau buddsoddi'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, a fyddai'n gweithredu barn yr Ysgrifennydd Gwladol bod boicotio, dadfuddsoddi a gosod sancsiynau yn erbyn gwledydd tramor a diwydiant amddiffyn y DU yn amhriodol, heblaw lle bo sancsiynau, embargos a chyfyngiadau ffurfiol wedi'u rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU.

Mae democratiaeth effeithiol yn fwy na rhoi marc ar bapur pleidleisio bob ychydig o flynyddoedd. Er mwyn i ddemocratiaethau fod yn gryf ac effeithiol, mae arnynt angen dinasyddion sy'n hynod weithredol. Bydd rhai o'r rhain yn cymryd rhan mewn materion lleol a bydd eraill yn canolbwyntio ar bryderon cenedlaethol a byd-eang. Mae ein nodau llesiant, sydd wedi'u nodi yn ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn cydnabod mai'r math o Gymru rydym ei heisiau yw un sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang gyda chymunedau diogel sydd â chysylltiadau da.

Mae'n rhaid i Weinyddwyr Pensiynau sicrhau bod buddiannau'u haelodau'n cael eu gwasanaethu'n dda. Mae hyn yn egwyddor hirsefydlog. Mae'n golygu sicrhau enillion ariannol ar eu buddsoddiadau er budd eu haelodau. Nid yw'n golygu diystyru materion moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach.  

Mae cyfrifoldeb cymdeithasol, amgylcheddol a chorfforaethol yn rhan bwysig o ddewisiadau sefydliadol a dinasyddiaeth weithgar gan unigolion. Mae'n cynnwys gwneud penderfyniadau am sut a lle maent yn buddsoddi. O fewn y mesurau diogelu sydd eisoes yn bodoli, mae'n rhaid iddi fod yn rhesymol i aelodau etholedig allu adlewyrchu'u gwerthoedd nhw a'r gwerthoedd y maent yn credu bod eu haelodau'n eu rhannu yn eu dewisiadau buddsoddi.
Yn ystod cyfnod yr apartheid, yn groes i bolisi tramor Llywodraeth y DU ar y pryd, cymerodd llawer o unigolion gweithredol a chydwybodol ran mewn ymgyrchoedd boicotio a dadfuddsoddi. Nid wyf yn credu y byddai'r un ohonom yn ystyried yn awr bod eu gweithredoedd yn anghywir. Rwy'n siŵr hefyd y byddem oll yn croesawu'r canlyniad y gwnaethant helpu i'w sicrhau.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai amhriodol yw awgrymu y dylai polisi tramor cenedlaethol ddiystyru penderfyniadau moesegol, sy'n seiliedig ar risg, gan awdurdodau pensiwn lleol wrth fuddsoddi. Dylid gwneud penderfyniadau buddsoddi o'r fath fel rhan o ystyriaeth ofalus o'r risgiau a'r gwerthoedd priodol i fuddsoddwyr ac yng nghyd-destun y ddyletswydd ymddiriedol i fuddion eu haelodau, sy'n parhau i fod yn berthnasol.