Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt,  Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais fis diwethaf fy mod wedi cymeradwyo dyrannu cyllid gwerth dros £6 miliwn o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed.  Tynnais sylw hefyd at y ffaith fy mod yn bwriadu cyhoeddi cylch cyllido arall o dan y cynllun yn fuan.  Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod Cylch V bellach ar agor, a’i fod yn canolbwyntio ar brosiectau a fydd yn cychwyn yn 2012-13.

Mae’r Gronfa Buddsoddi i Arbed yn helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus i drosglwyddo i ddulliau mwy effeithlon, mwy effeithiol a mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau, ac yn eu helpu i wynebu her setliad anodd.

Bydd y dyraniad cyllid diweddaraf yn cefnogi prosiectau sy’n annog sefydliadau i gydweithio oddi mewn i sectorau a rhyngddynt. Bydd hefyd yn datblygu’r agenda effeithlonrwydd ac arloesi, gan gefnogi prosiectau arloesol sy’n trawsnewid y modd y darperir gwasanaethau. Bydd y cyllid hefyd yn annog sefydliadau i rannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn hapus i wneud hynny.