Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r broses gomisiynu flynyddol, a gynhelir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn nodi'r rhaglenni addysg a hyfforddiant sydd eu hangen i ddiwallu anghenion gweithlu'r GIG.

Dyma'r seithfed flwyddyn y mae AaGIC wedi datblygu'r Cynllun Comisiynu a Hyfforddiant Addysg cenedlaethol.

Heddiw, rwy'n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn comisiynu addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ddarparu £319.6 miliwn ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27. Mae hyn yn cynrychioli ymrwymiad parhaus i weithlu'r GIG mewn cyfnod ariannol eithriadol o heriol. 

Rydym yn cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw sicrhau gweithlu'r GIG sy'n sefydlog, yn gynaliadwy ac wedi'i hyfforddi'n dda – mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ein penderfyniad i ddiogelu'r llif o weithwyr y mae GIG Cymru yn dibynnu arno. 

Wrth osod y gyllideb ar gyfer blwyddyn academaidd 2026-27, rwyf wedi dewis blaenoriaethu parhad a chynnal y rhaglenni sy'n hanfodol i ddarparu gofal diogel ac effeithiol. 

Rwy'n gwneud hynny yng nghyd-destun y problemau a wynebodd nifer sylweddol o raddedigion, ar draws nifer o broffesiynau, gan gynnwys nyrsio a pharafeddygaeth, wrth geisio sicrhau swyddi, oherwydd prinder swyddi gwag.

Bydd y dull gweithredu mesuredig ar gyfer 2026-27 yn sicrhau bod rhaglenni blaenoriaeth yn parhau. Mae hefyd yn hwyluso sefyllfa sefydlogi am flwyddyn wrth i Lywodraeth Cymru ac AaGIC gwblhau gwaith modelu senarios manwl a datblygu model cynllunio a chomisiynu'r gweithlu hirdymor a chryfach ar gyfer y blynyddoedd i ddod. 

Rwy'n falch o fuddsoddiad parhaus y llywodraeth hon mewn addysg a hyfforddiant gweithlu'r GIG. 

Bellach, mae mwy o bobl yn gweithio i'r GIG yng Nghymru nag ar unrhyw adeg yn ei hanes, gan hyrwyddo atal, gofal a llesiant mewn cymunedau ledled y wlad. 

Ar 30 Medi 2025, roedd GIG Cymru yn cyflogi 99,993 o staff cyfwerth ag amser llawn, sy'n gynnydd o 2% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol ac 13.1% yn uwch nag ar ddechrau tymor y Senedd.