Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 17 Rhagfyr, cyhoeddwyd cynigion gan Lywodraeth y DU i dorri'r cyllid sydd ar gael i fferyllfeydd cymunedol yn Lloegr o 6% yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn ôl dadansoddiad Adran Iechyd San Steffan, byddai hyn yn golygu colled o £170 miliwn i'r sector yn Lloegr yn 2016-17. 

Mae'r cynigion hyn yn destun ymgynghoriad sydd ar agor tan 24 Mawrth. Nid ydym yn gwybod hyd yma beth fydd canlyniad yr ymgynghoriad.  

Yn sgil cyhoeddi'r toriadau arfaethedig i fferylliaeth gymunedol yn Lloegr, hoffwn esbonio'r sefyllfa yng Nghymru.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes rhagorol o fuddsoddi mewn fferylliaeth gymunedol a datblygu rôl fferyllwyr. Fel rhan o wasanaeth gofal sylfaenol cadarn, mae fferyllfeydd cymunedol yn hanfodol er mwyn rheoli'r galw sydd ar wasanaethau meddygon teulu drwy leihau nifer yr apwyntiadau diangen a sicrhau bod pobl yn gallu gweld y gweithiwr proffesiynol cywir yn y lleoliad cywir ar yr adeg iawn.

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi buddsoddiad o £750,000 o Gronfa Effeithlonrwydd Drwy Dechnoleg i integreiddio fferylliaeth gymunedol yn llawn gyda meddygon teulu ac ysbytai. Bydd hyn yn galluogi fferyllfeydd cymunedol i weld cofnodion iechyd unigolion, a sicrhau y caiff gwybodaeth am glaf sy'n gadael yr ysbyty ei throsglwyddo i fferyllfa gymunedol a ddewiswyd gan y claf.

Bydd y cynllun Dewis Fferyllfa hefyd fod ar gael i bob bwrdd iechyd ar draws Cymru, gan alluogi mwy o bobl i gael cyngor a thriniaeth ar gyfer amrywiaeth o fân anhwylderau drwy eu fferyllfa gymunedol heb apwyntiad. Bydd hyn yn helpu i leihau'r pwysau ar feddygfeydd meddygon teulu, gan ryddhau amser meddygon teulu i drin pobl â chyflyrau mwy cymhleth.


Ers 2005, cytunwyd ar Fframwaith Cytundebol i Fferylliaeth Gymunedol ar gyfer Cymru a Lloegr. Yn ystod yr amser hwnnw, rydym wedi cydweithio â chynrychiolwyr fferyllwyr ar gontract yma yng Nghymru er mwyn rhoi'r fframwaith hwn ar waith yn hyblyg. Wrth wneud hyn rydym wedi cyflawni ein hagenda ein hunain ar gyfer gwasanaethau fferylliaeth gymunedol sy'n bodloni anghenion penodol pobl Cymru.
Bydd y newidiadau arfaethedig i gyllid fferylliaeth gymunedol yn Lloegr yn peri pryder i fferyllwyr ar gontract yng Nghymru. Cyfrifoldeb y Llywodraeth Cymru newydd fydd penderfynu sut i weithredu yng ngoleuni'r penderfyniadau a wneir yn Lloegr.  

Fodd bynnag, nid yw'r cyllid ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cynnwys cynigion i fuddsoddi llai mewn gwasanaethau fferylliaeth gymunedol.