Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai £1m yn cael ei ddyrannu i bob un o'r 10 cynllun cyflawni allweddol - gan fuddsoddi cyfanswm o £10m i wella gofal, gwasanaethau a chanlyniadau i bobl ag ystod o gyflyrau difrifol sy'n para oes.

Cafodd cynlluniau cyflawni eu datblygu i ddwyn ynghyd camau allweddol i wella cyflyrau difrifol, fel canser, clefyd y galon a strôc. Cânt eu datblygu gan glinigwyr, cleifion ac eiriolwyr dros ofal rhagorol. Yn ogystal ag amlinellu camau gweithredu craidd, mae'r cynlluniau yn cynnwys mesurau canlyniadau a mesurau sicrwydd i fonitro'r cynnydd a wneir. Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw, ac wedi cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gynnydd ar lefel byrddau iechyd lleol ac yn genedlaethol.  

Mae'r cynlluniau hyn yn cyflwyno gwelliannau gwirioneddol ym maes gofal a chanlyniadau cleifion. Mae mwy o bobl yn goroesi canser nag erioed o'r blaen er gwaetha'r ffaith fod mwy o bobl yn cael diagnosis, ac mae 96% o bobl â chanser yn dweud bod eu gofal yn rhagorol, yn dda iawn neu'n dda. Mae cyfraniadau at Fanc Canser Cymru wedi cynyddu; mae'r broses o gofnodi gwahanol gamau o ganser wedi gwella; rydym wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar weithwyr allweddol ac wedi gweithredu proses adolygu gadarn gan gymheiriaid i wella ansawdd ein gwasanaethau - pob un yn gam yn y cynllun cyflawni ar gyfer canser.

Rydym yn gwneud cynnydd tebyg gyda chlefydau eraill - mae nifer y bobl sy'n goroesi clefyd y galon a strôc wedi cynyddu; mae nifer y bobl sy'n marw o strôc wedi disgyn o 1,000 y flwyddyn. Mae nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty oherwydd strôc, clefyd y galon a diabetes hefyd yn disgyn, sy'n dangos bod y cyflyrau hyn yn cael eu rheoli'n well yn y gymuned. Rydym eisoes wedi datblygu gwasanaeth gofal diwedd oes 24/7 yng Nghymru - mae'r cynllun gofal diwedd oes yn ein hysgogi i fynd ymhellach.  

Mae rhagor o waith i'w wneud o hyd i gyflawni'r holl gamau gweithredu a amlinellir yn y cynlluniau cyflawni i wella gofal a thrawsnewid gwasanaethau. Fodd bynnag, rhaid i ni gydnabod bod nifer o'r cynlluniau hyn yn gymharol newydd - mae'r cynllun niwrolegol, y cynllun anadlol a chynllun yr afu yn flwydd oed neu'n iau. Mae pob un ohonom am i'r broses o wneud gwelliannau fod yn un gyflym, ond rydym hefyd am iddi fod yn gynaliadwy.

Mae gan bob cynllun cyflawni grŵp gweithredu, yn cynnwys arweinwyr clinigol, gweithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr o'r trydydd sector a chynrychiolwyr cleifion o bob bwrdd iechyd, ac mae pob gr p wedi amlinellu sut y bydd yn buddsoddi'r £1m, i sicrhau gwelliannau mesuradwy i ganlyniadau cleifion.

Mae'n bleser gen i allu cyhoeddi sut y caiff £7m ei fuddsoddi yn y cynlluniau ar gyfer canser, diabetes, strôc, cyflyrau niwrolegol, anadlol, diwedd oes ac iechyd meddwl. Mae'r cynlluniau cyflawni ar gyfer yr afu, clefyd y galon a gofal critigol hefyd wedi cael £1m ac mae'r cynigion yn cael eu cwblhau. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar ôl i’w cynlluniau buddsoddi gael eu cadarnhau.

Bydd yr £1m ar gyfer y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cefnogi prosiectau i wella canlyniadau i bobl â chanser yr ysgyfaint, gan gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o'r clefyd ymhlith y cyhoedd a rhaglen cyn-sefydlu ar gyfer pobl sydd angen llawdriniaeth i sicrhau eu bod yn cael y manteision mwyaf o'u triniaeth. Bydd llwybrau canser newydd hefyd yn cael eu datblygu, gan wella'r ffordd y caiff gwasanaethau eu monitro a chynhelir rhagor o arolygon am brofiad cleifion.

Bydd y cyllid ar gyfer y cynllun cyflawni ar gyfer diabetes yn ceisio gwella'r ffordd y mae pobl yn rheoli'r cyflwr eu hunain drwy raglenni addysg strwythuredig. Caiff cyllid hefyd ei ddefnyddio i wella safonau gofal gyda swyddi newydd i helpu i bontio rhwng gwasanaethau plant ac oedolion ac ar gyfer podiatreg clinigol gan fod gofal traed da yn hanfodol i bobl â diabetes. Bydd y grŵp gweithredu ar gyfer diabetes hefyd yn buddsoddi mewn nyrsys diabetes arbenigol yn y gymuned.

Bydd y cyllid anadlol yn mynd i'r afael â'r amrywiad mewn presgripsiynau drwy ddatblygu canllawiau ar gyfer Cymru gyfan a hyfforddiant newydd i weithwyr iechyd proffesiynol. Bydd hefyd yn helpu i gynyddu arbenigedd yn y defnydd o sbirometreg drwy greu canolfannau hyfforddi achrededig ledled Cymru. Mae'r grŵp gweithredu hefyd am i bawb sy'n cael diagnosis newydd o asthma neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) gael cynllun gofal hunan-reoli ysgrifenedig i'w helpu i reoli eu cyflwr yn llwyddiannus.

Mae'r buddsoddiad diwedd oes yn canolbwyntio ar hosbisau yn y cartref. Er bod y gwasanaeth wedi'i hen ddatblygu mewn rhai ardaloedd o Gymru, nid yw ar gael ar lefel gyson ar hyd y wlad. Bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod lefel uwch o gymorth clinigol yn y gymuned i helpu pobl i farw yn y man maen nhw'n ei ddewis.

Bydd y grwpiau gweithredu niwrolegol a strôc yn cydweithio i wneud buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau adsefydlu niwrolegol.  Mae gwasanaethau adsefydlu yn helpu pobl i aros mor annibynnol â phosibl tra eu bod yn byw gyda nam niwrolegol. Mae'r grwpiau hefyd wedi cytuno i ganolbwyntio ar y cyd ar brofiad cleifion i ddeall anghenion pobl yn well.

Bydd yr £1m sydd wedi'i ddyrannu i'r cynllun iechyd meddwl yn rhan o becyn gwerth £3m i wella mynediad at therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth a thriniaethau siarad i oedolion, plant a phobl ifanc, fel y mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes wedi cyhoeddi.

Mae nifer o’r grwpiau gweithredu hefyd wedi cytuno i gyfuno rhywfaint o'u cyllid mewn prosiect i nodi a darparu ymyriadau wedi'u targedu i'r rheini sydd mewn perygl o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd. Bydd y prosiect hwn yn adeiladu ar y rhaglen Byw'n Dda, Byw'n Hirach sy'n digwydd ym Mlaenau Gwent ar hyn o bryd, ac sy'n nodi'r rheini sydd â'r risg uchaf o ddatblygu clefyd cardiofasgwlaidd ac yn eu gwahodd i gael gwiriad iechyd. Mae'n bwysig ein bod yn canolbwyntio ar atal pobl rhag datblygu cyflyrau cronig lle bynnag y bo'n bosibl.

Rydym yn gwneud cynnydd da i weithredu ein cynlluniau cyflawni a gwella'r gofal y mae'r GIG yn ei ddarparu i bobl â chyflyrau iechyd difrifol, ond mae llawer i'w wneud o hyd. Bydd y cyllid hwn o £10m gan Lywodraeth Cymru, wedi'i rannu rhwng 10 cynllun cyflawni, yn sicrhau ein bod yn cadw ein ffocws, ac yn sicrhau mwy o welliannau i wasanaethau ac i ganlyniadau a phrofiadau cleifion.      

I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau a'r adroddiadau ewch ar lein.