Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n ymweld ag arddangosfa fasnach Anuga yn Cologne, yr Almaen, i gefnogi cynrychiolwyr o’n cynhyrchwyr bwyd a diod Cymru sy’n cymryd rhan yn y digwyddiad pwysig hwn. Ni fu erioed mor bwysig inni godi proffil Cymru yn rhyngwladol a mynd ati’n egnïol i hyrwyddo’n cynhyrchion bwyd a diod rhagorol i’r byd. Mae’n hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig, mae’n hallforion bwyd a diod wedi codi 20%. Mae hyn yn cynyddu ar gyfradd gyflymach o'i gymharu â'r DU gyfan, a dyfodd 9.5% dros yr un cyfnod. Rydym am gynnal y duedd ar i fyny hon a byddwn yn parhau i gydweithio â’r diwydiant drwy Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru i wireddu ein cydweledigaeth ar gyfer cynyddu’n gynaliadwy werthiant yn y diwydiant 30% i £7 biliwn erbyn 2020 ac ennill cydnabyddiaeth y Cynllun Gweithredu Bwyd a Diod.

Yn ystod fy ymweliad ag Anuga, byddaf yn cyhoeddi buddsoddiad o £1.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros dair blynedd o’r flwyddyn nesaf i Hybu Cig Cymru (HCC) gyflwyno Rhaglen Datblygu Allforio Well ar gyfer cynnal y diwydiant cig coch yng Nghymru.

Mae HCC yn nodi mai 5% yn unig o’r cig oen a gynhyrchwyd yng Nghymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru. Mae hyd at 40% ohono yn cael ei allforio i du allan i’r DU. Amcangyfrifir bod dros 90% o’r allforion hyn, gwerth €200 miliwn y flwyddyn, yn mynd i Farchnad Sengl yr Undeb Ewropeaidd. Mae diwydiant cig coch Cymru’n dibynnu’n fawr ar farchnadoedd allforio byd-eang i gael y prisiau uchaf. Mae’r galw cryf o dramor yn codi’r prisiau a delir i ffermwyr ac yn helpu i gydbwyso’r cyflenwad a’r galw gan sicrhau mwy o enillion i’r gadwyn gyflenwi.  Mae hyn yn dangos pwysigrwydd y marchnadoedd allforio ar gyfer y diwydiant cig coch yng Nghymru.

Gan fod y DU ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd a chan fod ansicrwydd ynglŷn â’r telerau ar gyfer cael mynediad at y prif farchnadoedd ar ôl 2019, mae’r diwydiant cig coch yng Nghymru yn wynebu her sylweddol ynglŷn â blaenoriaethu cynnal y marchnadoedd allforio presennol a datblygu marchnadoedd newydd. Mae’n bosibl bod yr ansicrwydd hwn eisoes yn effeithio ar y farchnad allforio gan fod y cwsmeriaid presennol yn ystyried ceisio cyflenwad amgen o rannu eraill o Ewrop fel bod y risg iddynt yn cael ei leihau  

Felly, bydd y rhaglen allforio well, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan HCC, yn diwallu’r angen strategol i ddatblygu ymhellach farchnadoedd allforio a mynediad at y farchnad, yn ystod yr adeg dyngedfennol hon. Mae’r rhaglen yn ymateb yn uniongyrchol i’r her sylweddol sy’n wynebu’r diwydiant yn sgil ansicrwydd y trefniadau masnachu a geir ar ôl gadael yr UE.

Drwy raglen allforio well HCC gallai gwerthiant cig coch Cymru gynyddu £4.6 miliwn, gellir cynnal a diogelu  gwerth £58 miliwn y flwyddyn o werthiant presennol dros dair blynedd y rhaglen, a gallai fod gwerthiant pellach gwerth £44 miliwn o fewn y pum mlynedd ar ôl cael mynediad at farchnadoedd newydd. Yn eu tro, bydd sicrhau’r enillion hyn yn y diwydiant yn cynnal swyddi, twf a chyfoeth yng Nghymru, yn benodol mewn ardaloedd gwledig.

Yn amlwg, mae angen inni barhau i gryfhau ein diwydiant a’i baratoi ar gyfer y dyfodol, ac mae angen inni fod yn uchelgeisiol wrth weithredu. Mae’n hollbwysig bod HCC yn parhau i helpu’r diwydiant i gynnal  marchnadoedd allweddol Ewrop, yn ogystal â datblygu mynediad at farchnadoedd sydd yn bellach i ffwrdd. Rwy’n hyderus y bydd y buddsoddiad hwn, a’r cymorth a ddarperir gan HCC, yn helpu’r diwydiant cig coch i wynebu’r heriau cenedlaethol a rhyngwladol, a’r cyfleoedd a ddaw, yn ystod y blynyddoedd nesaf.