Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwyf wedi cyhoeddi 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit', y diweddaraf mewn cyfres o bapurau sy'n adeiladu ar y cynigion a osodwyd yn ein Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru' ym mis Ionawr. Mae'r papur yn cyflwyno cynigion adeiladol ynghylch y ffordd rydym am weld rhanbarthau Cymru'n cael eu cefnogi ar ôl Brexit.

Ar ddechrau'r broses ddatganoli, Cronfeydd Strwythurol yr UE oedd un o'r prif faterion cyntaf ar ein hagenda. Dros gyfnod o bron i ugain mlynedd, rydym wedi dysgu cymaint drwy ein partneriaethau o fewn Cymru a chyda'r Comisiwn Ewropeaidd am yr hyn sy'n gweithio. Yn dilyn tri chylch dilynol o Gronfeydd Strwythurol yr UE, bydd pobl Cymru yn well eu byd, ac yn fwy parod i wynebu'r dyfodol nag y byddent wedi bod fel arall. Er enghraifft, mae'r cyllid wedi helpu i haneru'r bwlch rhwng cyfraddau anweithgarwch economaidd Cymru a'r DU ers 2001. Mae Gorllewin Cymru a'r Cymoedd wedi cau bylchau hanesyddol â chyfartaledd Dwyrain Cymru a'r DU, gan weld gwelliannau o ran cyflogaeth a chwymp mewn anweithgarwch economaidd.

Y tu allan i'r UE, byddwn yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno, gan barhau i ganolbwyntio ar swyddi, twf a phobl. Rydym yn dadlau dros barhau i fuddsoddi'n rhanbarthol, gan greu system newydd sy'n gwneud mwy na dim ond dilyn systemau ac arferion presennol yr UE. Mae'r papur wedi defnyddio adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ddyfodol polisi rhanbarthol.

Ymysg ein cynigion mae'r canlynol:

  • Symleiddio rheolau, gweinyddiaeth a systemau ar gyfer cronfeydd buddsoddi rhanbarthol.
  • Datblygu cynlluniau ar gyfer rhanbarthau Cymru dan arweiniad partneriaethau sy'n cynnwys awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau'r ardaloedd hynny.
  • Canolbwyntio buddsoddi rhanbarthol ar yr ardaloedd lle mae angen, yn hytrach na dilyn map artiffisial.
  • Cynnal y gallu i ddarparu cymorth gwladwriaethol i fusnesau.
  • Pedair llywodraeth genedlaethol y DU yn cytuno ar reolau cymorth rhanbarthol er mwyn osgoi ras i'r gwaelod a allai niweidio cymunedau.
  • Creu Cyngor Gweinidogion Economaidd o bob un o'r pedair gwlad er mwyn cydlynu polisïau ar draws y DU.
  • Llywodraeth y DU i ychwanegu arian at gyllideb Cymru ar ôl Brexit, yn cyfateb o leiaf i'r £370m y mae'r UE yn ei roi i Gymru ar hyn o bryd ar gyfer datblygu rhanbarthol, heb unrhyw gyfyngiadau na chymryd cyfran ei hun.
Rydym yn bwriadu gweithio mewn ffordd gadarnhaol, adeiladol gyda Llywodraeth y DU ar agweddau o gyflawni economaidd, ond byddwn yn gwrthwynebu'n llwyr unrhyw ymgais i ganoli polisi datblygu rhanbarthol drwy 'Gronfa Ffyniant Gyffredin’. Byddai unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adfachu arian buddsoddi rhanbarthol a'i ddefnyddio i redeg rhaglen ei hun yn tanseilio'i haddewid i barchu datganoli. Felly mae'n papur yn galw am ganiatáu i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid barhau i wneud penderfyniadau buddsoddi rhanbarthol.

Llywodraeth Cymru sydd yn y lle gorau i arwain y gwaith o lunio polisi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol. Mae gennym bron i ddau ddegawd o brofiad o reoli polisi rhanbarthol a chyllid rhanbarthol, sydd wedi gadael gwaddol pwysig o arbenigedd. Er mwyn troi polisi economaidd rhanbarthol yn waith ymarferol mae angen pobl ar lawr gwlad, ac mae gennym bresenoldeb sylweddol ym mhob rhan o Gymru. Mae partneriaethau eisoes yn eu lle gennym ledled Cymru, ar bob lefel, i symud ymlaen i sicrhau llwyddiant yn y maes hanfodol bwysig hwn.

Mae'n profiad o weithio wrth ochr partneriaid i ddarparu cyllid Ewropeaidd yn golygu bod gennym sawl perthynas eisoes yn gweithredu a chyflawni gyda'i gilydd ym mhob rhan o Gymru. Nid oes gobaith i raglenni wedi'u llunio yn Whitehall efelychu'r llwyddiant hwn.

Byddwn yn wynebu llawer o heriau wrth ymadael â'r UE ond hefyd mae cyfleoedd yn codi drwy hyn. Byddwn yn trafod ein cynigion gydag amrywiol randdeiliaid ledled Cymru ac yn cynnal digwyddiadau trafod yn y Gogledd ar 18 Ionawr ac yn y De ar 25 Ionawr.

Mae’r papur ar gael yma: www.llyw.cymru/brexit