Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn roi diweddariad i'r aelodau ar fy mhenderfyniad i fuddsoddi £1.2 miliwn ychwanegol yn Hybu Cig Cymru dros y  tair blynedd nesaf er mwyn datblygu ymhellach raglen allforio cig coch Cymru.

Roedd allforion cig oen a chig eidion Cymru yn werth £217 miliwn yn 2012, ac mae Hybu Cig Cymru yn amcangyfrif bod cadwyn gyflenwi cig coch Cymru - gan gynnwys ffermwyr, proseswyr a manwerthwyr - yn werth £1 biliwn y flwyddyn i economi Cymru.

Gallai datblygu rhaglen allforio bresennol Hybu Cig Cymru gynyddu allforion cig coch Cymru £37.5 miliwn ymhellach dros dair blynedd.

Mae cynyddu'r galw o wledydd tramor yn golygu prisiau gwell i ffermwyr a phroseswyr yng Nghymru sydd wedyn yn ail-fuddsoddi’r arian yn eu cymunedau lleol. Bydd darparu'r rhaglen hon yn cynyddu enillion diwydiant cig coch Cymru sydd, yn ei dro, yn gwella swyddi, twf a chyfoeth Cymru, yn enwedig yr economi wledig.  

Mae cig oen a chig eidion Cymru mewn sefyllfa gref ar hyn o bryd yn y farchnad fyd-eang, gan fod y ddau wedi ennill statws PGI sy'n nodi eu tarddiad a'u rhinweddau unigryw. Mae PGI yn rhoi sicrwydd i gwsmeriaid mai dim ond cig o ŵyn a gwartheg sydd wedi’u magu a’u geni yng Nghymru, y gellir eu holrhain yn llawn, ac sydd wedi'u lladd a’u prosesu mewn lladd-dai/safleoedd prosesu a gymeradwywyd gan Hybu Cig Cymru, sy’n gallu cael ei alw’n gig o Gymru.

Mae Hybu Cig Cymru wrthi'n cynnal trafodaethau i geisio agor marchnadoedd newydd ar gyfer cig oen a chig eidion Cymru yn Tsieina, Rwsia a'r Unol Daleithiau, ac rwy'n hyderus y bydd yr arian ychwanegol hwn yn eu helpu i gyflawni hyn.

Caiff oddeutu traean o gig oen Cymru ei allforio dramor, sy'n pwysleisio pa mor bwysig yw'r farchnad hon i'r sector cig coch.