Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch iawn fy mod wedi sicrhau £10m o gyllid cyfalaf ychwanegol yn ystod y flwyddyn i ddarparu mwy o gartrefi. Mae hyn yn cyfrannu at becyn ehangach o fuddsoddiad a sicrhawyd gyda'r nod o sicrhau mwy o gartrefi i bobl ledled Cymru.

Un o brif flaenoriaethau’r Llywodraeth hon yw rhoi cyfle i bob teulu.  Gwyddom fod buddsoddi mewn tai cymdeithasol yn lleihau tlodi, yn gwella iechyd ac yn helpu i ysgogi twf economaidd. “Gall tai fforddiadwy o ansawdd da ddarparu cyfleoedd i bob unigolyn a theulu, gan effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl a chanlyniadau addysg.

Dyna paham ei fod mor bwysig ein bod yn darparu cymaint o gartrefi ag y gallwn, cyn gynted â phosibl. Rydym eisoes yn gweithredu, gyda lefelau buddsoddi uwch nag erioed.  Hyd yn hyn yn ystod tymor y Senedd hon rydym wedi darparu bron i 9,000 yn fwy o gartrefi i'w rhentu yn y sector cymdeithasol. Mae amcanestyniadau sector yn dal i ddweud wrthym fod nifer o  gynlluniau cadarn i ddarparu mwy o gartrefi yn ystod tymor y Senedd hon ac i'r nesaf. 

Mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid cyflenwi i ddeall y gyfres o gynlluniau, nodi unrhyw rwystrau i gyflawni a chanfod pa gamau y gellir eu cymryd i sicrhau bod cymaint o gynlluniau â phosibl yn cael eu cyflawni. 

Bydd y £10m ychwanegol yn y flwyddyn yn cefnogi 16 cynllun ledled Cymru, gan ddarparu 238 o gartrefi cyn diwedd tymor y llywodraeth hon. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i gaffael cartrefi gan ddatblygwyr a thir lle bydd cartrefi'n cael eu datblygu a'u cwblhau yn 2025-26.   Bydd £30m arall o gyllideb Grant Tai Cymdeithasol (SHG) 2025-26 hefyd yn cefnogi'r cynlluniau.

Mae ein cyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26 yn dangos ymhellach ein hymrwymiad diwyro i ddarparu mwy o gartrefi drwy gynnal ein lefelau uchaf erioed o gyllid ar gyfer cartrefi cymdeithasol. Rwyf wedi dyrannu £81m ychwanegol ar gyfer mwy o gartrefi drwy'r Grant Tai Cymdeithasol a Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol, gan fynd â chyfanswm y gyllideb ar gyfer 2025-26 i £411m.

Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi ychwanegol tuag at y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu yn ystod tymor y Senedd hon.  Bydd hefyd yn cefnogi cartrefi newydd a gymeradwywyd ac a ddechreuwyd yn 2025-26 a fydd yn dod i ben yn ystod tymor y Senedd nesaf. 

Yn dilyn llwyddiant TACP, mae'n bleser gennyf gyhoeddi'n ffurfiol y bydd TACP 2025-26 yn ailagor gyda dyraniad dangosol o £100m.  Rydym wedi gwrando ar adborth ar y tair blynedd gyntaf o gyflawni a bwriad y cyhoeddiad cynnar hwn yw rhoi gwybod ymlaen llaw i'r sector y bydd y rhaglen yn ailagor ar gyfer ceisiadau yn gynnar yn y flwyddyn ariannol newydd. 

Rwy'n falch o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gartrefi ar gyfer pobl ledled Cymru. Rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i wneud popeth y gallaf, i gyflawni'r agenda bwysig hon ar gyfer pobl Cymru.