Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o rannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Bwndel Babi, sy’n parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu.

Rydym wedi sicrhau bod £2.5 miliwn ar gael ar gyfer y rhaglen Bwndel Babi yn 2025-26. Bydd y rhaglen yn targedu pob teulu sy'n disgwyl plentyn ac sy'n byw yn un o ardaloedd craidd Dechrau'n Deg. Bydd bydwragedd hefyd yn gallu cynnig Bwndel Babi, trwy waith maes, i nifer cyfyngedig o deuluoedd sydd angen mwy o gymorth ond nad ydynt yn byw yn yr ardaloedd Dechrau'n Deg hyn. 

Bydd Bwndel Babi yn cynnwys eitemau fel blanced a dillad cynnes, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol am ragor o help a chymorth. Bydd darparu Bwndel Babi yn cael gwared ar rywfaint o'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn ei wynebu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac yn helpu i gyflawni ein hymrwymiad yn y Strategaeth Tlodi Plant i leihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd. 

Rwy'n falch o gadarnhau ein bod wedi dyfarnu'r contract ar gyfer y Cyflenwr Bwndeli Babi i Allied Publicity Services, sydd eisoes â phrofiad o ddarparu cynllun tebyg yn yr Alban. Bydd y Cyflenwr Bwndeli Babi yn gyfrifol am lawer o waith cyflawni'r rhaglen, gan gynnwys cyflenwi'r eitemau ar gyfer y Bwndeli Babi a'u dosbarthu i deuluoedd ledled Cymru.

Mae gan fydwragedd hefyd rôl hollbwysig i’w chwarae yn y broses o gyflawni’r rhaglen hon, ac rwy’n ddiolchgar am eu cefnogaeth. Rydym yn disgwyl i fydwragedd ddechrau codi ymwybyddiaeth ymhlith teuluoedd cymwys ddiwedd mis Medi eleni, gyda theuluoedd yn gallu cofrestru ar gyfer Bwndel Babi o ddiwedd mis Tachwedd ymlaen.

Edrychaf ymlaen at ddarparu rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y rhaglen maes o law.