Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn y cyfarfod rhwng uwch-swyddogion Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar 22 Hydref, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn dweud bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn mynd i barhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd, a bod cerrig milltir a chynnydd yn mynd i gael eu hadolygu bob chwe mis.

Wrth ystyried y camau nesaf ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y sefydliad GIG cyntaf yng Nghymru i gael ei roi o dan fesurau arbennig – rydym wedi tynnu ar brofiadau GIG Lloegr, lle mae amryw o ymddiriedolaethau’r GIG o dan fesurau arbennig. Mae’r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr wedi dangos pa mor bwysig yw darparu’r gefnogaeth gywir ar yr amser cywir. Mae’n amlwg hefyd fod angen amser ar sefydliadau i unioni sefyllfa’n llwyddiannus, mewn ffordd sy’n gynaliadwy.  
Rydym wedi trafod â Simon Dean, Prif Weithredwr Dros Dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Peter Higson, cadeirydd y bwrdd iechyd ac Ann Lloyd, Dr. Chris Jones and Peter Meredith-Smith, ein tri chynghorydd annibynnol, i benderfynu pa gefnogaeth arall sydd ei hangen yn awr. Bydd angen i’r gefnogaeth honno alluogi’r Bwrdd Iechyd i ddatblygu ar y cynnydd a wnaed yn ystod y pedwar mis cyntaf o dan fesurau arbennig a sicrhau bod ganddo sail gadarn ar gyfer y tymor hwy.  

Mae penodi Prif Weithredwr parhaol yn allweddol i sicrhau arweiniad cadarn a pharhaol ar gyfer y Bwrdd Iechyd. Mae’r broses ar gyfer recriwtio unigolyn sydd â’r weledigaeth, y sgiliau arwain a’r ymroddiad angenrheidiol i sicrhau bod hyder y staff, y cyhoedd a’r rhanddeiliaid yn cael ei adennill wedi dechrau eisoes. Hoffwn i ddiolch i Mr. Dean am ei waith caled a’i ymroddiad parhaus ers iddo dderbyn y swydd fel Prif Weithredwr Dros Dro. Bydd Mr. Dean yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y Bwrdd Iechyd i’w gefnogi yn ystod y cyfnod o weddnewid hyd nes y bydd Prif Weithredwr newydd wedi’i benodi. Bydd yn dychwelyd i’w swydd barhaol fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru maes o law.

Rydym yn sefydlu tîm gwella ar gyfer y Bwrdd Iechyd i sicrhau bod gan y Prif Weithredwr y gallu i wneud y gwelliannau angenrheidiol i’r meysydd y’u nodwyd o dan y mesurau arbennig. Bydd y tîm yn adrodd i’r Prif Weithredwr ac yn gweithio ochr yn ochr ag aelodau annibynnol o’r Bwrdd a’r Tîm Gweithredol mewn meysydd allweddol, sef llywodraethu, cynllunio strategol, gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau gofal sylfaenol ac ailgysylltu â’r cyhoedd.  

Bydd Ann Lloyd, cyn brif weithredwr GIG Cymru, yn parhau i gynnig trosolwg ac yn cwblhau gwaith llywodraethu’r Bwrdd, gan gynnwys gwaith ar ymddygiadau; datblygu fframwaith sicrwydd y Bwrdd ac adolygu ac ailstrwythuro pwyllgorau.
Nid yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynhyrchu cynllun tymor canolig integredig tair blynedd hyd yma. Bydd y tîm gwella, felly, yn cynnwys arbenigedd cynllunio a strategaeth i feithrin y sgiliau a’r gallu a geir eisoes yn y maes hwn yn y sefydliad. Bydd hyn yn sbardun i’r gwaith o ddatblygu strategaeth ar gyfer darparu gwasanaethau iechyd diogel a chynaliadwy, o ansawdd uchel, i’r Gogledd.
Mae gwella gwasanaethau iechyd meddwl yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i’r Bwrdd Iechyd o dan y mesurau arbennig. Mae angen adolygiad strategol o’r gwasanaethau presennol nawr, gyda gweledigaeth newydd, a strategaeth ar gyfer y tymor, hwy i ddilyn. Rhaid datblygu hyn mewn partneriaeth agos â defnyddwyr gwasanaethau, rhanddeiliaid a phobl leol. 

Er mwyn sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r strategaeth hon yn codi stêm, ac i helpu i ymgysylltu â’r cyhoedd ynghylch dyfodol gwasanaethau meddwl, bydd ymgynghorwyr allanol sydd â hanes llwyddiannus yn y maes hwn yn cael eu tynnu i mewn. Bydd y tîm 1000 o Fywydau ac Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn cefnogi er mwyn sicrhau bod y cynlluniau yn gydnaws â’n strategaeth genedlaethol newydd – Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Bydd arferion gorau o rannau eraill o Gymru a thu hwnt hefyd yn cael eu hystyried.  

Bydd y Bwrdd Iechyd yn penodi cyfarwyddwr newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a fydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Yn ogystal â hynny, mae Jenny French, arweinydd nyrsio rhanbarthol iechyd meddwl profiadol, o Fwrdd iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a arferai fod yn swyddog nyrsio yn Llywodraeth Cymru, hefyd yn ymuno â’r tîm. Mae hi wedi cael ei phenodi yn uwch-nyrs iechyd meddwl ac anableddau dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a bydd yn dechrau ar ei gwaith yn y Gogledd yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Bydd Helen Bennett, cyn gyfarwyddwr nyrsio iechyd meddwl ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, hefyd yn ymuno â’r tîm gwella; hi fydd yn gyfrifol am ddatblygu’r fframwaith llywodraethu iechyd meddwl newydd. Bydd Helen, sy’n gweithio’n rhan-amser i Hafal ar hyn o bryd, yn dod â chyfoeth o arbenigedd clinigol, ynghyd â phrofiad o weithio gyda’r Ombwdsmon yng Nghymru yn ogystal â’r sector gwirfoddol, gyda hi i’r Bwrdd. Rwy’n ddiolchgar i Hafal am eu cefnogaeth er mwyn gwireddu hyn. 

Byddwn hefyd yn darparu mwy o gapasiti rheoli prosiect i gefnogi gwaith y Gwasanaeth Cynghorol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) a Donna Ockenden mewn perthynas â’r methiannau mewn gofal ar ward Tawel Fan, yn Ysbyty Glan Clwyd. 

Bydd Peter Meredith-Smith, cyfarwyddwr cyswllt yng Ngholeg Nyrsio Brenhinol Cymru, yn parhau i gynghori Llywodraeth Cymru ar y cynnydd ar iechyd meddwl. Bydd yn canolbwyntio yn awr ar sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cadw i fyny â’r rhaglen gwella gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed i Gymru Gyfan hyd nes iddo ddychwelyd i’r Coleg Nyrsio Brenhinol yn y gwanwyn.  

Yn eu hadolygiad o’r cynnydd a wnaed o dan y mesurau arbennig, roedd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn glir bod y gwaith gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau, o dan arweiniad Dr. Chris Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, wedi ymddangos fel catalydd ar gyfer sicrhau bod gwell gwerthfawrogiad o sut i ddatblygu gwasanaethau sylfaenol a chymunedol mwy cyson a chydlynol ar draws y Gogledd.

Bydd y tîm gwella yn cynnwys pobl â’r sgiliau cywir i gefnogi’r Bwrdd Iechyd i wneud gwelliannau pellach i ofal sylfaenol a sicrhau ei fod yn defnyddio ei gyfran o’r gronfa gofal sylfaenol genedlaethol £40 miliwn yn y ffordd orau posibl. Bydd Dr. Jones yn adolygu’r cynnydd ym mis Rhagfyr.

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi dechrau’r broses o ailgysylltu â’i staff a’r cyhoedd. Rhaid iddo nawr ddatblygu cynllun ar gyfer y tymor hwy a fydd yn dangos sut y bydd yn parhau i ymgysylltu â staff, cleifion, y cyhoedd a’r rhanddeiliaid allweddol, ac yn parhau i wrando. Bydd y tîm gwella yn rhoi rhagor o adnoddau a chymorth i helpu’r Bwrdd Iechyd i wneud hyn. 

Bydd y tîm gwella yn cael ei sefydlu dros yr wythnosau nesaf a bydd yn gweithio gyda’r Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru i gytuno ar gynllun ar gyfer gwella, gan bennu’r cerrig milltir allweddol i’w cyrraedd adeg yr adolygiadau chwemisol.
Wrth amlinellu’r trefniadau ar gyfer mesurau arbennig yn y dyfodol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dros y ddwy flynedd nesaf, disgwyliaf weld Bwrdd Iechyd sy’n:

  • Meddu ar arweiniad cryf a threfniadau llywodraethu cadarn
  • Darparu gwasanaethau iechyd meddwl diogel, o ansawdd uchel 
  • Cynnig gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau sy’n ddiogel a chynaliadwy, a chanddo gynllun clir ar gyfer datblygu gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol yn y Gogledd  
  • Wedi dangos ei fod yn gallu delio â materion gwasanaeth anodd a heriol mewn partneriaeth â’i staff a’r cyhoedd, a bod ganddo strategaeth glinigol glir ar gyfer datblygu gwasanaethau ar gyfer y tymor hir ar draws y Gogledd.

Bydd cefnogaeth, ymroddiad ac egni parhaus staff y Bwrdd Iechyd a’r cyhoedd yn y Gogledd yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau a gwireddu canlyniadau cynaliadwy. 

Byddaf yn rhoi diweddariad arall maes o law ar y cynnydd a’r trefniadau cefnogi.