Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn cyngor Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac uwch-swyddogion yn Llywodraeth Cymru, cadarnheais ar 22 Hydref 2015 y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd. 

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r fframwaith gwella ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae'r ddogfen hon yn egluro ein disgwyliadau ar gyfer gwelliannau ym mhob un o'r meysydd a nodwyd o dan fesurau arbennig a'r cerrig milltir ar gyfer cynnydd dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hefyd yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bodloni cyn y gellir ystyried is gyfeirio’r mesurau arbennig yn y dyfodol.
Mae'r broses o ddatblygu'r fframwaith wedi cynnwys adborth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, y Bwrdd Iechyd a chyngor gan y tîm o gynghorwyr arbennig sydd wedi gweithio gyda'r Bwrdd yn ystod y misoedd cyntaf o fesurau arbennig. 

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd, er bod angen newid yn sylweddol ac mae'n mynd i gymryd amser i adennill hyder ac ymddiriedaeth y boblogaeth leol a'r staff. Mae'n bwysig, felly, bod y cerrig milltir a osodwyd ar gyfer y Bwrdd Iechyd, y bydd y Bwrdd yn cael ei asesu yn eu herbyn, yn chwarae rhan i feithrin yr ymddiriedaeth honno.

Mae mesurau arbennig yn gysyniad newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru, ond mae wedi cael ei ddefnyddio mewn amryw o sefydliadau'r GIG yn Lloegr. Rydym wedi tynnu oddi ar brofiad Lloegr, sydd wedi dangos y gall gymryd nifer o flynyddoedd i drawsnewid sefydliadau yn llwyddiannus.  

Mae'r fframwaith gwella yn nodi'r camau gweithredu bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu cymryd i ddangos a darparu tystiolaeth ei fod yn gwella ym mhob maes a nodwyd o dan y mesurau arbennig - arweinyddiaeth a llywodraethu; ymgysylltu â'r cyhoedd a'r staff; iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth; a gofal sylfaenol a gwasanaethau y tu allan i oriau. Bydd cynnydd yn erbyn y fframwaith yn cael ei ystyried yn y cyfarfodydd rhwng y tri chorff, sef swyddogion o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd ymateb yn awr a dangos sut mae'n bwriadu bodloni'r disgwyliadau a amlinellir yn y fframwaith gwella. Rhaid gwneud hynny gan fodloni'r amserlenni ar gyfer pob un o'r tri chyfnod - hyd at chwe mis; saith i 12 mis a 13 i 24 mis. Bydd yn darparu tystiolaeth yn erbyn y chwe mis cyntaf yn mis Mai.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi penodi Prif Weithredwr newydd, sef Gary Doherty, a fydd yn dechrau ar ei swydd ar 29 Chwefror. Bydd yn darparu arweinyddiaeth hirdymor i gymryd y camau gweithredu angenrheidiol a pharhau â'r broses o ailfeithrin y berthynas â'r staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid, ac ennyn eu hyder unwaith yn rhagor. 

Bydd Simon Dean yn parhau i weithredu fel y Prif Weithredwr Dros Dro ac fel y Swyddog Atebol hyd nes y bydd Mr. Doherty yn ei swydd. Wedi hynny, bydd Simon Dean yn dychwelyd i'w rôl barhaol fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru. Hoffwn ddiolch i Mr. Dean am ei arweinyddiaeth yn ystod y misoedd cyntaf o dan fesurau arbennig ac am ei waith i sefydlogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf am ddiolch hefyd i staff y Bwrdd am barhau i ymateb mor gadarnhaol i drefniadau'r mesurau arbennig.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu adnoddau ychwanegol a chymorth drwy'r tîm gwella ac yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tra bo trefniadau'r mesurau arbennig yn parhau.