Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth, a sefydlwyd i oruchwylio gwelliannau mewn gofal mamolaeth a gofal newyddenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, wedi cryfhau ei ffocws ar ofal newyddenedigol.

Ym mis Mawrth, ymunodd Dr Alan Fenton, neonatolegydd ymgynghorol a Ms Kelly Harvey, nyrs newyddenedigol â’r panel. Ym mis Mai, gyda chymorth tîm bychan o adolygwyr clinigol, dechreuwyd adolygiad manwl o’r gwasanaeth newyddenedigol yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Cytunwyd ar y cylch gorchwyl gyda’r bwrdd iechyd a oedd yn croesawu’r datblygiad hwn. Y nod oedd ystyried y gwasanaeth newyddenedigol presennol a’r cynllun gwella sydd ar waith i geisio sicrwydd bod gwasanaethau’n ddiogel, yn effeithiol, yn cael eu harwain yn dda ac, yn hollbwysig, wedi’u hintegreiddio â gofal mamolaeth i ddarparu gwasanaeth di-dor ar gyfer menywod a’u babanod.

Mae’r ymarfer cynhwysfawr hwn yn cael ei lywio gan dystiolaeth a gasglwyd o amryw o ffynonellau gan gynnwys:

  • Adborth gan deuluoedd sydd â phrofiad o ofal newyddenedigol. Ymatebodd mwy na 100 o deuluoedd i ymarfer gwrando a gynhaliwyd gan y panel yn ystod mis Gorffennaf.
  • Sgyrsiau gyda staff a rhanddeiliaid ehangach.
  • Adolygiadau achos o’r babanod salaf yn yr uned newyddenedigol yn ystod 2020.
  • Adolygiad o ystod eang o ddogfennau’n ymwneud â chanlyniadau clinigol, diogelwch a data effeithiolrwydd yn ogystal â llywodraethu clinigol a sicrwydd.

O’r dystiolaeth a adolygwyd hyd yma, mae’r panel wedi nodi rhai meysydd y mae’n credu sy’n cael effaith ar ddarpariaeth gyson y gofal diogel ac effeithiol y byddem yn ei ddisgwyl gan uned o’r fath yn y DU.

Felly, penderfynodd roi gwybod i’r bwrdd iechyd am ei ganfyddiadau interim ac uwchgyfeirio amryw o faterion i’w gweithredu ar unwaith ac yn y tymor byr. Mae wedi gweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd a’m swyddogion dros yr wythnos ddiwethaf i sicrhau bod camau priodol yn cael eu cymryd yn gyflym. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwelliannau ar unwaith i ragnodi a gweinyddu meddyginiaethau gyda chymorth y fferyllfa a gwirio presgripsiynau yn ddyddiol. Gwneir gwaith pellach dros y mis nesaf i ddatblygu gweithdrefn safonol, rhestrau gwirio ac archwiliadau.
  • Dechreuwyd archwiliad i sicrhau bod babanod sydd angen eu hatgyfeirio i uned drydyddol yn cael eu trosglwyddo’n brydlon, a lleihau derbyniadau amhriodol i’r uned yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.
  • Cynyddu nifer y meddygon ymgynghorol sy’n goruchwylio’r uned a chynyddu’r amser sy’n cael ei neilltuo i’r uned. Gweithio’n agosach gyda’r uned newyddenedigol arbenigol yng Nghaerdydd a chael rhagor o gymorth ganddi. Mae’r broses o recriwtio dau feddyg ymgynghorol ychwanegol wedi dechrau, a bydd un yn dechrau yn ei swydd ym mis Tachwedd.
  • Sefydlu rhaglen gymorth canolfan arbenigol ar gyfer staff nyrsio newyddenedigol.
  • Gwella agweddau penodol o bractis clinigol, gan gynnwys adolygiad brys o ddulliau oeri babanod yn therapiwtig a babanod sydd angen tiwbiau anadlu.
  • Gwella safonau dogfennau, gan gynnwys cyflwyno siart arsylwi newydd.

Bydd sicrhau cydweithio agosach gyda rhwydwaith mamolaeth a newyddenedigol Cymru a chymorth gan unedau cyfagos yn allweddol i helpu i roi’r gwelliannau hyn ar waith.

Rwy’n ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu staff ar hyn o bryd, ac nid yw gwasanaethau newyddenedigol yn eithriad – bydd yn anodd iddynt weld y canfyddiadau hyn. Fodd bynnag, mae’r panel wedi croesawu gonestrwydd staff yr uned a’u syniadau am yr hyn sydd angen newid.

Mae’n bwysig bod staff yn cael eu cefnogi i wneud y gwelliannau hyn a bod eu llesiant yn ystyriaeth allweddol yng nghynllun gwella’r bwrdd iechyd. 

Yn yr un modd, er y bydd y canfyddiadau hyn yn peri pryder i deuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaeth, rwy’n gobeithio y byddant yn gweld bod eu llais a’u cyfraniad yn wirioneddol bwysig ac yn arwain at newid. Mae llawer o’r gwelliannau a roddwyd ar waith wedi bod o ganlyniad i’w hadborth a bydd y bwrdd iechyd eisiau gweithio gyda theuluoedd i sicrhau gwell cyfathrebu a chymorth a sicrhau bod rhieni’n cael eu cynnwys mwy mewn penderfyniadau am ofal eu baban.

Bydd y panel a’m swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r bwrdd iechyd i gefnogi a monitro’r gwelliannau. Bydd y panel yn llunio adroddiad pan ddaw’r rhan hon o’r gwaith i ben a bydd yr adroddiad ar gael i Aelodau pan fyddaf yn ei gael yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ac yn gwneud datganiad pellach wedi imi gael yr adroddiad cynnydd nesaf gan y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth ar bob agwedd o’i waith a’i asesiad o gynnydd cyffredinol y bwrdd iechyd. Mae’r Panel wrthi’n cwblhau ei ddadansoddiad a’i ganfyddiadau o ail elfen y rhaglen adolygu clinigol, sy’n cynnwys babanod marwanedig. Byddaf hefyd yn sicrhau bod yr adroddiad hwn ar gael.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.