Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Sefydlwyd Bwrdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gennyf ym mis Tachwedd 2013, gan osod yr her o ddarparu arweiniad, gweledigaeth a chyfeiriad strategol.

Rwyf yn falch o nodi bod y Bwrdd wedi cyflawni’r her honno ac wedi cyflawni ei gylch gwaith. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cafodd y Bwrdd ei arwain yn fedrus gan Roger Lewis gyda chymorth arbenigol ei aelodau o lefel uchel byd busnes, academiad a llywodraeth leol. Mae Bwrdd wedi ennyn diddordeb ystod eang o unigolion a sefydliadau ac wedi cynnal gweithdai a digwyddiadau sydd wedi llywio ei ddull o weithio ac wedi lledaenu ei neges i gynulleidfa ehangach.

Mae’r Bwrdd wedi:

  • Creu undod pwrpas gwirioneddol ynghylch uchelgeisiau twf cyffredin
  • Datblygu a chyhoeddi gweledigaeth stragegol glir o dan y pennawd “Sbarduno Economi Cymru” – gan bennu cysylltedd, sgiliau ac arloesedd fel prif flaenoriaethau’r Rhanbarth
  • Sicrhau cymorth rhanbarthol ehangach ar gyfer prosiectau sy’n gweddnewid, fel y Metro.

Mae’r Bwrdd wedi cyflawni ei Gylch Gorchwyl “i ddarparu’r arweiniad, y weledigaeth a’r cyfeiriad strategol ar gyfer y Ddinas-ranbarth”. Mae’n bwysig nad ydym yn colli momentwm yn y ddinas-ranbarth ac mae’n rhaid i’r trefniadau llywodraethu newydd gael eu hystyried yng ngoleuni’r datblygiadau newydd fel Bargen Ddinesig bosib. Am y rheswm hwnnw rwyf wedi penderfynu sefydlu trefniadau pontio newydd, gan ddiweddaru’r aelodaeth, y cylch gorchwyl a thelerau penodi newydd.

Bydd y Bwrdd Pontio yn helpu i lunio’r Rhanbarth yn ystod y cam nesaf hwn o’i ddatblygiad, a bydd yn cael y dasg o:

  • hyrwyddo y cydweithio sydd ei angen i wneud Dinas-Ranbarth Caeryddd yn llwyddiant yn yr hirdymor
  • helpu i reoli unrhyw drawsnewidiad wrth i’r dull o lywodraethu ddatblygu
  • integreiddio ac alinio yr agenda a sefydlwyd gan y Bwrdd blaenorol gyda datblygiadau newydd fel cam 2 Metro a thrafodaethau y Fargen Ddinesig
  • rhoi cyngor ar ddatblygiadau ehangach yn y Ddinas-ranbarth.

Gan mai trefniant pontio yw hwn mae’r Bwrdd Pontio wedi ei adnewyddu, gyda nifer o aelodau y Bwrdd blaenorol, i sicrhau parhad. Bydd yr Athro Kevin Morgan yn parhau fel cynghorydd. Bydd cylch gorchwyl newydd y Bwrdd yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.

Y bwriad yw y bydd y Bwrdd Pontio yn cynnwys:

  • Ann Beynon (Cadeirydd), Cyfarwyddwr blaenorol BT yng Nghymru
  • Cyngh Peter Fox (Is-Gadeirydd), Arweinydd Cyngor Sir Fynwy
  • Dan Langford, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu, Acorn Recruitment
  • Cyngh Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol, Rhondda Cynon Taf
  • Yr Athro Brian Morgan, Athro Entrepreneuriaeth a Chyfarwyddwr, Arweinyddiaeth Greadigol a Menter, Prifysgol Creative Leadership and Enterprise, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
  • Mike Payne, Swyddog Gwleidyddol Rhanbarthol, GMB Union
  • Lynn Pamment, PwC, Partner Uwch Swyddfa Caerdydd, Pennaeth Gwasanaethau y Sector Cyhoeddus
  • Cadeirydd Ardal Fenter Caerdydd, Chris Sutton, Prif Gyfarwyddwr Jones Lang LaSalle Caerdydd.