Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddwyd Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar 11 Mehefin.

Ymrwymodd y cynllun i ‘Sefydlu Rhaglen Drawsnewid genedlaethol i annog gweithredu’r cynllun hwn, dan arweiniad y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gyda chefnogaeth Bwrdd Trawsnewid o gynrychiolwyr traws-sector’.

Mae’n bleser gennyf gyhoeddi’r canlynol fel aelodau o’r Bwrdd Trawsnewid.  Byddant yn cefnogi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol, Andrew Goodall, wrth iddo arwain y Rhaglen Drawsnewid.

• Alex Howells – Prif Weithredwraig, Addysg a Gwella Iechyd Cymru

• Clare Budden – Prif Weithredwraig, Grŵp Tai Pennaf

• Dave Street – Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

• Gareth Roberts – Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru

• Huw David – Arweinydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

• Keith Moultrie – Cyfarwyddwr, Institute of Public Care, Oxford Brookes University

• Jan Williams – Cadeirydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru 

• Len Richards – Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

• Phil Roberts – Prif Weithredwr, Cyngor Abertawe

• Phil Robson – Cadeirydd, Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Aneurin Bevan

• Ruth Marks – Prif Weithredwraig, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

• Siôn James – Arweinydd Clwstwr, Clwstwr Gofal Gogledd Ceredigion

• Steve Thomas – Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru 

• Sue Evans – Prif Weithredwr, Gofal Cymdeithasol Cymru 

• Vanessa Young – Cyfarwyddwraig, Conffederasiwn GIG Cymru