Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n cyhoeddi fy mwriad i gyflwyno rôl nyrsio band 4 rheoleiddiedig ar gyfer y GIG yng Nghymru, yn amodol ar wneud y diwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth y DU. Mae'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar yr adolygiad mwyaf, a mwyaf dylanwadol, o nyrsio yng Nghymru ers cyflwyno'r nyrs raddedig yn 2004.

Y llynedd, comisiynais brosiect i edrych ar yr opsiynau a'r cyfleoedd i lywio safbwyntiau polisi ac argymhellion ar gyfer dyfodol y gweithlu nyrsio band 4 ar draws GIG Cymru. Y nod yw ystyried a fyddai rôl band 4 cofrestredig, a rheoleiddiedig, yn ddymunol, yn briodol ac o werth o fewn GIG Cymru. Mae'r gwaith yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gweithlu: Mynd i'r afael â Heriau Gweithlu GIG Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023. 

Mae'r prosiect wedi cynnwys adolygiad cynhwysfawr o lenyddiaeth, casglu tystiolaeth ac ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid cyn llunio adroddiad. Mae canfyddiad allweddol yn dangos, er gwaethaf y gwaith sylweddol a wnaed dros ddegawd i safoni datblygiad Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd, nad yw’r rôl band 4 yn cael ei defnyddio ddigon o bell ffordd, a bod dull anghyson o’i gweithredu ar draws GIG Cymru. 

Yn ei hanfod, canlyniad y prosiect yw'r cadarnhad bod rhanddeiliaid clinigol ac academaidd ar draws Cymru eisiau i'r rôl band 4 mewn nyrsio gael ei rheoleiddio i ddiogelu'r cyhoedd yn well ac i leihau risg, ynghyd â sicrhau cysondeb o ran safonau proffesiynol ac addysgol. Bydd y dull hwn yn adlewyrchu'r gwaith a wnaed yn GIG Lloegr wrth gyflwyno'u rôl Cydymaith Nyrsio Cofrestredig Band 4. Disgrifiwyd y Cydymaith Nyrsio Cofrestredig fel y model gorau o ehangu mynediad i nyrsio yn Lloegr ac mae'n rhoi cyfle i aelodau newydd, addysgedig o'r gweithlu nyrsio bontio'r bwlch rhwng Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd a Nyrsys Cofrestredig.

Mae'r adroddiad yn cynnwys 20 o argymhellion wedi'u rhannu rhwng Llywodraeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau'r GIG i'w gweithredu ac rwyf wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn.

Mae angen gwneud diwygiadau deddfwriaethol i'r Gorchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth (2001) er mwyn cyflwyno'r rôl Cydymaith Nyrsio Cofrestredig yng Nghymru. Mae'r rhain yn bwerau a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU. Rwyf wedi hysbysu'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn ffurfiol fel y gellir ystyried fy mhenderfyniad yn ei raglen diwygio rheoleiddio sydd ar ddod. Rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion Llywodraeth Cymru gysylltu â'r swyddogion cyfatebol yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU mewn perthynas â'r mater hwn.

Dros yr wythnosau nesaf bydd adroddiad llawn y prosiect yn cael ei gyhoeddi, ac yn ddiweddarach eleni byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar ddatblygu paramedrau ymarfer ar gyfer y rôl newydd yng Nghymru.

Mae hwn yn benderfyniad pwysig ar gyfer y maes nyrsio ac mae'n hanfodol bwysig o ran sicrhau ansawdd a diogelwch y gofal a ddarperir i gleifion yn ogystal â gwella canlyniadau iddynt.