Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 1 Hydref cyhoeddodd Bysiau Arriva Cymru eu bod wedi dechrau ymgynghori â staff ynghylch cynigion i gau eu depo yn Aberystwyth a rhoi’r gorau i ddarparu rhai gwasanaethau bws yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Byddai’r penderfyniad hwn yn effeithio ar y gwasanaethau canlynol:

  • Gwasanaethau 20, 40 a 40C – o Aberystwyth i Gaerdydd drwy Gaerfyrddin, Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr.
  • Gwasanaeth 50 – o Aberystwyth i Synod Inn drwy Aberaeron a Cheinewydd.
  • Gwasanaeth 585 – o Aberystwyth i Lanbedr Pont Steffan.
  • Gwasanaeth X94 – sy’n gweithredu fel rhan fasnachol o rwydwaith TrawsCymru o wasanaethau pellter hir rhwng Wrecsam ac Abermaw.

Er mai mater masnachol i’r cwmni yw hwn, rydym yn siomedig bod Bysiau Arriva Cymru wedi gwneud y penderfyniad hwn. Rwyf wedi bod yn siarad heddiw gyda’r tri awdurdod lleol perthnasol a byddaf yn gofyn i grŵp o swyddogion adrodd yn ôl i mi erbyn diwedd yr wythnos nesaf gan nodi’r opsiynau ar gyfer cadw’r gwasanaethau hyn. Byddaf yn gwneud datganiad pellach maes o law.