Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf bellach wedi derbyn Adroddiad yr Arolygiaeth Gynllunio i ymateb i'r Ymchwiliad Lleol a gynhaliwyd ar ddechrau 2019, i'r cynigion ar is-ddeddfau 'Cymru Gyfan' Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cael eu hadnabod yn ffurfiol fel Is-ddeddfau Gwialen a Lein (Eogiaid a Brithyllod y Môr) 2017 ac Is-ddeddfau Pysgota Rhwyd Cymru (Eogiaid a Brithyllod y Môr) 2017.  

Rwy'n diolch i'r Arolygiaeth Gynllunio am eu gwasanaeth yn cynnal ymchwiliad agored, di-duedd a theg ac am baratoi yr Adroddiad.

Gallai rhyddhau Adroddiad yr Arolygaeth cyn gwneud fy mhenderfyniad terfynol achosi ansicrwydd ac oedi wrth wneud y penderfyniad. Y ffordd orau o sicrhau diddordeb y cyhoedd yn yr achos hwn yw drwy benderfyniad terfynol amserol, a fyddai'n cael ei wneud ar yr un pryd â chyhoeddi yr Adroddiad  , gan ganiatáu i'r cyhoedd graffu ar argymhellion yr Arolygydd, a ble yr wyf wedi cytuno neu anghytuno â'r argymhellion hynny.

Byddaf nawr yn cymryd yr amser i ystyried yr argymhellion ar yr is-ddeddfau arfaethedig tra'n rhoi ystyriaeth lawn i'r holl elfennau perthnasol.  Caiff y penderfyniad terfynol ar y ffordd orau ymlaen ei wneud cyn toriad yr haf.