Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses benodi gyhoeddus agored ac yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, rwy'n falch o gyhoeddi fy mod wedi dewis Katija Dew yn ymgeisydd a ffefrir gennyf ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae'r penodiad hwn yn amodol ar graffu cyn-penodi gan y Senedd, a fydd yn digwydd ar 4 Mawrth 2026. Ar ôl y gwrandawiad cyn-penodi, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar y penodiad ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynny i'r aelodau.