Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn dilyn cynnal proses penodiadau cyhoeddus agored, ac yn unol â’r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus, rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi dewis y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf fel fy ymgeisydd a ffefrir ar gyfer rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.
Mae’r penodiad hwn yn amodol ar graffu cyn penodi gan y Senedd, sydd i’w gynnal ar 26 Chwefror 2026. Ar ôl y gwrandawiad cyn penodi, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ynghylch y penodiad ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau wedi hynny.
