Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn proses agored a chystadleuol ac yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi dewis Paul Bevan fel yr ymgeisydd a ffefrir gennyf i ymgymryd â rôl Cadeirydd newydd Bwrdd Cymwysterau Cymru pan ddaw deiliadaeth y Cadeirydd presennol, David Jones OBE i ben ym mis Rhagfyr 2025.

Mae gan Paul gefndir cryf ym myd addysg gyda hanes rhagorol o arwain, trawsnewid sefydliadau a datblygu ar lefel Bwrdd, gan weithio yn y sectorau Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae wedi arwain newid sylweddol ym Mhrifysgol Fetropolitan Manceinion ac wedi trawsnewid Cyfarwyddiaeth Weithredol yng Ngrŵp Llandrillo Menai.

Mae Paul yn gwirfoddoli ar sawl Bwrdd gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth, Cyngor ar Bopeth Sir y Fflint, ac ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cymdeithas Cerbydau Trydan (EVA) Cymru.

Mae'r penodiad hwn yn amodol ar wrandawiad craffu cyn penodi a gynhelir gan y Senedd ar 3 Gorffennaf 2025.  Ar ôl y gwrandawiad, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar y penodiad, gan roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch hynny i'r Aelodau.

Fel y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer cymwysterau nad ydynt ar lefel gradd yng Nghymru, mae Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am sicrhau bod cymwysterau Cymru, a'n system gymwysterau, yn effeithiol o ran diwallu anghenion rhesymol ein dysgwyr; ac am hybu hyder y cyhoedd yn system gymwysterau Cymru.

Mae'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn ymgymryd â rôl bwysig sy'n cynnwys:

  • Pennu cyfeiriad strategol Cymwysterau Cymru;
  • Monitro cyflawni strategaeth busnes y sefydliad, ei gynlluniau a'i amcanion perfformiad.
  • Llywio a dylanwadu ar waith cyffredinol y sefydliad.

Nodiadau

Gwneir y penodiad yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus.

Gwneir pob penodiad ar sail teilyngdod, ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn rhan o’r broses ddethol. Fodd bynnag, yn unol ag argymhellion gwreiddiol Nolan, mae gofyniad i weithgaredd gwleidyddol y sawl a benodir (os oes unrhyw weithgaredd yn cael ei ddatgan) gael ei gyhoeddi. Nid yw'r ymgeisydd a ffafrir wedi datgan unrhyw weithgaredd gwleidyddol.