Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn dilyn proses agored a chystadleuol ac yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi dewis Nilesh Sachdev fel yr ymgeisydd a ffefrir gennyf i ymgymryd â rôl Cadeirydd newydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r Cadeirydd yn gyfrifol am arwain y Bwrdd er mwyn pennu gweledigaeth a chyfeiriad strategol Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn cyd-destun nodau a pholisïau strategol Llywodraeth Cymru. Bydd y Cadeirydd, ar y cyd â’r Bwrdd, yn sicrhau bod gweithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol a bydd yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.
Mae'r penodiad hwn yn destun craffu cyn penodi gan y Senedd a fydd yn cael ei gynnal ym mis Mehefin 2025. Ar ôl y gwrandawiad cyn penodi, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar y penodiad ac yn diweddaru'r Aelodau yn unol â hynny.