Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn dilyn y gwrandawiad cyn penodi gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar 26 Chwefror, rwy’n falch o gadarnhau y bydd Andrew Morgan OBE yn ymgymryd â rôl Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan o 5 Mai 2026. Rwy'n ddiolchgar i’r Pwyllgor am eu gwaith craffu ar y broses benodi hon.
Mae Andrew yn dod â phrofiad helaeth o arweinyddiaeth yn y sector cyhoeddus. Rwy’n hyderus y bydd ei fewnwelediad strategol, ei allu profedig i lywio heriau cymhleth, a’i ddealltwriaeth gref o’r systemau lleol a chenedlaethol yn darparu’r sicrwydd, yr arweiniad a’r arweinyddiaeth strategol sydd eu hangen i gefnogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan drwy’r heriau sylweddol sydd o’n blaenau.
Mae’r penodiad hwn wedi’i wneud yn unol â'r Cod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus.
Hoffwn hefyd ddiolch i Ann Lloyd, Cadeirydd presennol Bwrdd Prifysgol Aneurin Bevan, am ei chyfraniad sylweddol yn ystod ei gwasanaeth ers 2017.
