Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn dilyn proses agored a chystadleuol ac yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi dewis Vernon Everitt fel fy hoff ymgeisydd i ymgymryd â'r rôl fel Cadeirydd newydd Bwrdd Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r apwyntiad hwn yn amodol ar camau craffu cyn penodi gan y Senedd a fydd yn cael eu cynnal ar 19 Mehefin. Ar ôl y gwrandawiad cyn penodi, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar y penodiad ac yn diweddaru’r Aelodau yn unol â hynny.