Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn dilyn proses agored a chystadleuol, ac yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi dewis Sara Moseley fel yr ymgeisydd a ffefrir gennyf i ymgymryd â rôl Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Mae'r Bwrdd yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o lunio strategaeth, gweledigaeth, diben a diwylliant y sefydliad. Mae'n sicrhau bod y sefydliad yn atebol am ei wasanaethau a'i berfformiad, ac am weithredu strategaeth a sicrhau gwerth am arian, yn ogystal â datblygu a gweithredu mewn modd strategol. Bydd y Cadeirydd yn chwarae rhan hanfodol wrth arwain y Bwrdd i sefydlu gweledigaeth a chyfeiriad strategol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, gan sicrhau eu bod yn gydnaws â nodau a pholisïau strategol Llywodraeth Cymru.
Mae'r penodiad hwn yn amodol ar y gwrandawiad i graffu cyn penodi ymgeisydd, a fydd yn cael ei gynnal gan y Senedd ar 3 Gorffennaf 2025. Ar ôl y gwrandawiad, byddaf yn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ar y penodiad, gan roi diweddariad i'r Aelodau yn unol â hynny.
