Neidio i'r prif gynnwy

Ieuan Wyn Jones y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mae’r Datganiad hwn yn rhoi gwybodaeth i’r Aelodau am y Paneli Sector newydd a fydd yn cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ar ddatblygu economi Cymru.

Mae’r paneli sector yn cynnwys pobl fusnes o’r tu allan i’r llywodraeth sydd wedi’u profi eu hunain yn eu maes. Bydd pob un o’r paneli hyn yn rhoi cyngor ar gyfleoedd yn y chwe sector allweddol y mae’r Gweinidogion wedi nodi sydd â’r potensial mwyaf i ddatblygu economi Cymru. Mabwysiadwyd y dull hwn o weithio ar sail sectorau ar ôl cyhoeddi ‘Adnewyddu’r economi: cyfeiriad newydd’, sy’n amlinellu’r rôl y bydd gan y llywodraeth ddatganoledig i’w chwarae o ran cefnogi’r sector preifat a hybu economi Cymru.

Mae’n canolbwyntio ar chwe sector allweddol lle mae gan Gymru fanteision amlwg o ran y potensial i dyfu:

  • Y diwydiannau creadigol
  • TGCh
  • Ynni a’r Amgylchedd
  • Deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch
  • Gwyddorau Bywyd
  • Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

Bydd gan bob un o’r sectorau hyn ei banel ei hun, a fydd yn cynnwys pum person busnes o’r sector preifat, gan gynnwys y cadeirydd. Eu gwaith hwy fydd rhoi cyngor i’r Gweinidogion ar anghenion yr amryfal sectorau, a’r cyfleoedd ynddynt. Yn y lle cyntaf, byddant yn rhoi blaenoriaeth i fapio siâp y sectorau ac i weithio gyda busnesau o bob maint i nodi cyfleoedd.

Mae gan y paneli sector newydd hyn un swyddogaeth amlwg - defnyddio’u llwyddiant a’u profiad yn y sector preifat i’n cynorthwyo i nodi’r cyfleoedd gorau i hybu twf busnesau. Ein nod yn y pen draw yw gweld busnesau Cymru, boed fawr neu fach, yn tyfu ac yn creu’r swyddi y mae eu hangen arnom er mwyn datblygu’n heconomi yn y dyfodol.

Dyma gadeiryddion newydd y sectorau:

  • Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch - Gareth Jenkins.
  • Ynni a’r Amgylchedd - Kevin McCullough.
  • Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol - Chris Nott.
  • TGCh - Thomas Kelly.
  • Gwyddorau Bywyd – Syr Christopher Evans.

Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddwyd mai Ron Jones fydd yn cadeirio panel y sector diwydiannau creadigol.

Yn ogystal â’r cadeiryddion, dyma aelodau eraill y chwe phanel:

Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch

  • Mr Keith Baker
  • Y Dr Frank O’Connor
  • Y Dr Phillip Clement
  • Deep Sagar

Ynni a’r Amgylchedd

  • Mr David Williams
  • Mr Alan Proctor
  • Mr Gerry Jewson
  • Mr John Jones 

Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol

  • Mr Seth Thomas
  • Mr Allan Griffiths
  • Mrs Vivienne Hole
  • Mr David Hawkins

TGCh

  • Mr Andrew Carr
  • Mr David Jones
  • Mr Steve Dalton
  • Y Dr Mark Bentall

Gwyddorau Bywyd

  • Yr Athro Gareth Morgan (is-gadeirydd)
  • Y Dr Grahame Guilford
  • Y Dr Penelope Owen
  • Mr Gwyn John Tudor

Y Diwydiannau Creadigol (gwnaed cyhoeddiad am y panel hwn ar 12 Hydref 2010)

  • Jaynie Bye
  • Gwyn Roberts
  • Dai Davies
  • Fiona Stewart

Hoffwn gadarnhau hefyd fy mod yng nghanol trafodaethau ers tro ynglŷn â ffurfio grŵp cynghori ar fusnesau bach a chanolig ar gyfer y chwe sector allweddol. Byddai’r grŵp hwn yn caniatáu i’r Paneli Sector ymgysylltu’n well â busnesau bach a chanolig yn eu sector hwy. Byddai hefyd yn cynorthwyo’r Paneli Sector a’r timau sector i gynllunio ac i ddarparu cymorth wedi’i dargedu i fusnesau, a hynny mewn modd sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig yn eu sector hwy.