Neidio i'r prif gynnwy

Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fis Tachwedd diwethaf, fel rhan o'm diweddariad ar raglen Dyfodol Cyfraith Cymru, rhoddais wybod i chi ein bod wedi cymryd cam mawr tuag at sicrhau bod defnyddwyr yn gallu cael mynediad at gyfreithiau Cymru ar ffurf gyfoes yn y ddwy iaith ar deddfwriaeth.co.uk. Fe wnes i hefyd addo rhoi diweddariad ar y gwaith i’r Aelodau.

Ein ffocws cychwynnol fu sicrhau bod y Deddfau a'r Mesurau a basiwyd gan y Senedd ers 2007 wedi eu diweddaru’n llwyr, yn y ddwy iaith. Rwy'n falch o adrodd bod bron i 80% o destunau Saesneg deddfwriaeth sylfaenol, ac ychydig dros 66% o'r testunau Cymraeg, bellach wedi eu diweddaru. Mae hyn yn gynnydd sylweddol, yn enwedig mewn perthynas â'r testunau Cymraeg gan nad oedd yr un ohonynt wedi'u diweddaru cyn i'n prosiect ddechrau.

Mae dros 6,000 o Offerynnau Statudol Cymru, ond nid yw tua 68% ohonynt wedi eu diwygio felly nid oes angen eu diweddaru. Fodd bynnag, mae newidiadau dros nifer o flynyddoedd i'r 32% sy'n weddill yn dal i adael cryn dipyn o waith golygyddol, ac yn ystod yr wythnosau diwethaf mae gwaith wedi dechrau ar gymhwyso'r diwygiadau Cymraeg i'r testunau hyn. Rydym eisoes wedi gwneud rhyw 5% o'r diwygiadau y mae angen eu dangos ond rwy'n rhagweld y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd leihau’r gwaith sydd wedi cronni.

Ein dull o fynd i'r afael â'r gwaith sydd wedi cronni fydd sicrhau bod yr offerynnau a wnaed yn fwyaf diweddar yn cael eu diweddaru'n gyntaf, cyn i ni weithio’n ôl tuag at yr offerynnau hynaf.  Fodd bynnag, rydym hefyd yn gweithio ar yr eitemau deddfwriaeth y mae pobl yn edrych arnynt amlaf ar legislation.gov.uk, yn ogystal â phrosiectau unigol. Er enghraifft, mae diweddaru'r holl Ddeddfau ac Offerynnau Statudol sy'n ymwneud â'r ddeddfwriaeth "rhentu cartrefi" yn flaenoriaeth.

Byddaf yn parhau i ddiweddau’r Aelodau ar y gwaith hwn, gan gynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar y rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru a fydd yn cael ei osod gerbron y Senedd yn ddiweddarach eleni.