Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd swyddogion Llywodraeth Cymru wybod ddoe (7 Hydref) fod problem gyflenwi bosibl ledled y DU sy'n effeithio ar y gwaith o ddarparu’r pecynnau a’r adweithredyddion diagnostig a gyflenwir gan gwmni fferyllol Roche. 

Roche yw prif gyflenwr nifer o’r pecynnau profi a ddefnyddir mewn meddygaeth labordy yn y DU, gan gynnwys profion biocemeg, profion imiwnohistocemeg a phrofion COVID-19. Gallai diffyg gallu i brosesu rhai profion diagnostig mewn modd amserol effeithio ar y broses o wneud penderfyniadau clinigol, a thrwy hynny effeithio ar y modd yr ydym yn gallu darparu gwasanaethau o fewn GIG Cymru.

Mae galwad wedi’i chynnal rhwng swyddogion ledled y DU a chynrychiolwyr Roche, a chafwyd cadarnhad fod Roche yn cael problemau logistaidd a thechnegol ar ôl adleoli eu prif ganolfan ddosbarthu.  Mae hyn yn golygu nad yw Roche wedi gallu ateb y galw am gyflenwadau, ac felly bod archebion yn cronni.

Mae Roche wedi cadarnhau bod ganddynt gynllun adfer ar waith i sicrhau bod yr effaith ar y GIG ledled y Deyrnas Unedig yn cael ei rheoli a'i lleihau cyn belled ag y bo modd. Yn benodol, mae Roche wedi rhoi sicrwydd y bydd rhaglen brofi COVID a'r Gwasanaethau Gwaed yn cael blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod ganddynt ddigon o gyflenwadau i gynnal eu gwaith yn llawn.

Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'u cymheiriaid ledled y DU a chyda Roche hyd nes y caiff y mater hwn ei ddatrys.   

Rwyf wedi gofyn i swyddogion roi ymateb cenedlaethol ar waith mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn GIG Cymru i sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.  Byddaf yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ac yn rhoi diweddariad i’r Aelodau maes o law.