Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 8 Hydref, rhoddais wybod ichi am broblem gyflenwi ledled y DU a oedd yn effeithio ar y gwaith o ddarparu’r pecynnau a’r adweithredyddion diagnostig a gyflenwir gan gwmni fferyllol Roche. Rhoddais ddiweddariad pellach ar 20 Hydref gan roi sicrwydd bod fy swyddogion wedi cydlynu camau i sicrhau cadwyn gyflenwi gadarn drwy gyfnod mwyaf difrifol y tarfu.

Yn dilyn hyn, mae Roche wedi cadarnhau eu bod wedi dychwelyd i drefn busnes fel arfer, a bod holl gwsmeriaid y GIG yng Nghymru yn derbyn danfoniadau yn unol â’r gwasanaeth safonol. Mae’r cwmni’n cynnal adolygiad trylwyr o’r gwersi a ddysgwyd a bydd yr adolygiad hwn yn cael ei rannu gyda ni er mwyn inni ei ystyried a’i adolygu.

Mae Roche yn awr wrthi’n cwblhau eu paratoadau ar gyfer pontio o’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr. Rwyf wedi cael sicrwydd ganddynt y bydd eu cynlluniau aml-haen rhagataliol yn lliniaru unrhyw effaith bosibl ar wasanaethau clinigol.

Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda chyflenwyr i sicrhau bod eu paratoadau’n darparu gwytnwch i gefnogi ein gwasanaeth iechyd i barhau i ddarparu gwasanaethau allweddol i’n cleifion.