Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf rannu'r newyddion bod Cylchlythyr Iechyd Cymru Cael gwared ar hepatitis (B a C) fel bygythiad i iechyd y cyhoedd yng Nghymru – Camau gweithredu ar gyfer 2022-23 a 2023-24 bellach wedi'i gyhoeddi. Bydd hyn yn helpu Cymru i gyflawni ein hymrwymiad i gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd i gael gwared ar hepatitis B a C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd erbyn 2030.

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at y nodau hyn. Mae tua 4,000 o bobl wedi cael eu trin yn llwyddiannus am hepatitis C, ond mae gwaith modelu diweddar yn amcangyfrif bod tua 8,000 o bobl yng Nghymru o hyd sy'n byw â hepatitis C.

Mae sgrinio am hepatitis B bellach yn rhan o'n rhaglen sgrinio cyn geni, ac mae'r rhaglen imiwneiddio rheolaidd i blant yn cynnwys brechiad hepatitis B, sy’n golygu bod achosion o haint hepatitis B acíwt ymhlith plant yn brin yng Nghymru erbyn hyn. Fodd bynnag, mae'n parhau'n broblem ymhlith oedolion heb eu brechu. 

Cafodd y pandemig effaith ddifrifol ar wasanaethau hepatitis B a C. Rwy'n falch bod y Cylchlythyr Iechyd Cymru hwn yn amlinellu sut y bydd y GIG yn mynd ati i adfer gwasanaethau i'w lefelau cyn y pandemig yn ogystal ag ailgydio yn yr ymdrechion i gael gwared ar hepatitis B a C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Mae 13 o gamau allweddol i fyrddau iechyd, Byrddau Cynllunio Ardal ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen yn cael y cymorth sydd ei angen er mwyn cyrraedd y targedau hyn i gael gwared ar y feirws.

Mae manteision cael gwared ar hepatitis B a C yn eang, i unigolion ac i'r gymdeithas ehangach. Drwy nodi a thrin pobl sydd â hepatitis B a C, gallwn sicrhau na fydd clefyd yr afu cysylltiedig â hepatitis yn datblygu, na'r cymhlethdodau sy'n deillio ohono, sy'n cael effaith sylweddol a niweidiol ar iechyd meddwl a chorfforol pobl. Yn ogystal, mae goblygiadau sylweddol o ran costau ac adnoddau i'r GIG o drin clefyd yr afu cysylltiedig â hepatitis.

Mae swyddogion wedi sefydlu Grŵp Trosolwg Rhaglen Dileu Hepatitis B a C sy'n cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn rhoi pwyslais strategol unwaith yn rhagor ar gael gwared ar y feirws. Bydd y grŵp hwn yn adrodd i'r Prif Swyddog Meddygol a Gweinidogion yn rheolaidd.

Mae’r camau wedi cael eu datblygu gan y grŵp hwn, gan ganolbwyntio ar nodi’r bobl hynny y mae angen iddynt gael eu profi a'u trin, symleiddio prosesau darparu gwasanaethau fel bod modd i bobl gael eu profi a'u trin yn hawdd er mwyn diwallu anghenion unigolion, a chefnogi pobl drwy gydol y broses profi a thrin.

Rwy'n ddiolchgar am y gwaith caled a wnaed yn y maes hwn hyd yma, ac yn edrych ymlaen at gefnogaeth barhaus wrth inni fynd ati i gael gwared ar hepatitis B a C fel bygythiad i iechyd y cyhoedd.