Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae diogelwch adeiladau yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, a heddiw gallaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith.  Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r heriau cymhleth sy'n wynebu adeiladau amlfeddiannaeth ledled y DU.  Byddant hefyd yn ymwybodol o'r camau sydd eisoes wedi'u cymryd yma yng Nghymru i ddarparu cymorth i bobl sy'n byw mewn fflatiau â diffygion diogelwch a nodwyd.  Mae hyn wedi cynnwys sicrhau bod pob adeilad â chladin deunydd cyfansawdd alwminiwm (ACM) a nodwyd wedi cael ei adfer, neu y bydd yn cael ei adfer yn fuan, heb unrhyw gostau ychwanegol i lesddeiliaid. Yn ogystal â hyn, gwnaethom ddarparu £10.5m y llynedd ar gyfer gwaith adfer ar adeiladau yr effeithir arnynt yn y sector cymdeithasol ac mae 12 adeilad eisoes wedi manteisio ar y cymorth hwn.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda'n cymheiriaid yn Llywodraeth y DU er mwyn cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gymwys yng Nghymru mewn perthynas â diogelwch tân drwy Ddeddf Diogelwch Tân y Swyddfa Gartref a Bil Diogelwch Adeiladau'r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r diwygiadau deddfwriaethol hyn yn dechrau'r daith y byddwn yn ei gwneud er mwyn sicrhau y caiff adeiladau yn y dyfodol eu hadeiladu, eu cynnal a'u cadw a'u rheoli mewn ffordd sy'n blaenoriaethu diogelwch preswylwyr. Byddwn yn cyflwyno diwygiadau deddfwriaethol pellach i Gymru drwy Fil gan y Senedd yn ddiweddaraf yn ystod Tymor y Senedd hon.

Er gwaethaf y cynnydd hwn, ni wyddom eto faint yn union o adeiladau y mae diffygion diogelwch tân yn effeithio arnynt ac i ba raddau. Mae'n hanfodol bwysig y gallwn ddeall gwir faint y broblem er mwyn mynd i'r afael â hi yn briodol. I'r perwyl hwn, rwy'n cyhoeddi Cam 1 Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru. Bydd y cam cyntaf hanfodol hwn yn darparu cyllid grant ar gyfer arolygon diogelwch tân. Mae pob adeilad yn wahanol a bydd yr arolygon diogelwch tân yn nodi pa fesurau a chamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn sicrhau bod adeilad amlbreswyl mor ddiogel â phosibl a diogelu bywydau ac eiddo os bydd tân.

Ers gormod o amser, nid yw pobl sy'n byw mewn adeiladau yr effeithir arnynt wedi gallu bod â hyder yn niogelwch eu cartrefi eu hunain. Ni fydd canolbwyntio ar gladin yn unig, fel sy'n digwydd yn Lloegr, ond yn rhannol adfer yr hyder hwnnw ac nid yw hyn yn ddigon da. Yma yng Nghymru, bydd yr arolygon a ariennir gennym yn mabwysiadu dull gweithredu mwy cyfannol ac yn cynnwys asesiad o ddiffygion mewnol megis adrannu aneffeithiol. Byddant hefyd yn nodi ble y gallai fod angen systemau llethu tân a systemau rhybudd gwacáu. Bydd hyn yn rhoi darlun clir o'r mesurau adfer sydd eu hangen, yn ogystal ag ymyriadau a fydd yn hyrwyddo diogelwch preswylwyr ymhellach.

Mae gan bersonau cyfrifol megis landlordiaid ac asiantau rheoli ddyletswydd gyfreithiol eisoes i asesu'r risg o dân yn eu heiddo a gweithredu yn unol â hynny.  Bydd yr arolygon a ariennir gennym yn adeiladu ar yr asesiadau hynny ac yn mynd ymhellach na nhw, ar gyfer eiddo sydd â phroblemau cymhleth, difrifol neu anodd iawn. Bydd canfyddiadau arolwg diogelwch tân yn llywio'r gwaith o greu “Pasbort Adeilad – Diogelwch Tân”. Caiff y Pasbort ei ddatblygu gan bersonau cyfrifol/perchenogion adeiladau/asiantau rheoli a bydd yn nodi pa ddiffygion sydd wedi'u nodi, pa gamau adfer sydd angen eu cymryd, pryd y gellir rhoi'r mesurau diogelwch tân ar waith a phryd y bydd angen gwneud hynny a sut y gallent gyd-fynd â gwaith arall sydd angen ei wneud ar yr adeilad, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw a gynlluniwyd a mesurau datgarboneiddio posibl. I bob pwrpas, bydd y Pasbort yn darparu ‘un pwynt o wirionedd’ ynglŷn â'r hyn sy'n ofynnol er mwyn sicrhau bod adeiladau yn ddiogel rhag tân ond yn nodi rhestr ac amserlen arfaethedig o waith sydd wedi'u teilwra at yr adeilad hwnnw. Mae'r eglurder hwn yn hanfodol i breswylwyr a fydd yn gallu cael gwybodaeth glir a chydlynol am gynlluniau adfer eu hadeiladau ac yn ein helpu i dargedu cymorth pellach yn unol â thystiolaeth ac asesiad cadarn o risg.

Credaf mai'r rhaglen gymorth hon, a gyflwynir fesul cam, yw'r ffordd orau o sicrhau ein bod yn targedu cyllid adfer yn effeithiol er mwyn cefnogi lesddeiliaid.

Er y byddwn yn blaenoriaethu adeiladau preswyl uchel iawn i ddechrau, gwyddom nad yw'r problemau hyn yn ymddangos ar uchder o 18 metr yn unig. Dyna pam y bydd y cyllid grant hwn ar gael ar gyfer adeiladau amlfeddiannaeth gweddol uchel (11m+).

Bydd y cynllun ar agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb gan bersonau cyfrifol/perchenogion adeiladau/cwmnïau rheoli yn yr Hydref.

Rwy'n parhau i fod yn ymwybodol iawn o'r effaith sylweddol y mae'r materion hyn yn ei chael ar breswylwyr yr effeithir arnynt, yn ariannol ac ar eu hiechyd a'u lles. Rydym yn parhau'n ymrwymedig i gefnogi lesddeiliaid a phreswylwyr yng Nghymru. Rydym yn datblygu cronfa adfer a fydd yn ffurfio cam nesaf ein rhaglen gymorth. Byddaf yn cyhoeddi manylion y cam nesaf hwn o Gronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn yr Hydref.

Mae gan ddatblygwyr rôl glir i'w chwarae o hyd o ran cyfrannu at fynd i'r afael â diffygion diogelwch lle y'u ceir er mwyn diogelu lesddeiliaid rhag costau. Rwy'n falch o weld bod sawl datblygwr wedi neilltuo arian ac maent wedi gosod esiampl y dylai eraill ei dilyn. Fodd bynnag, credaf y gall, ac y dylai, datblygwyr wneud mwy. Bwriadaf gynnal cyfarfod bord gron â datblygwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn a byddaf yn parhau i bwysleisio wrthynt pa mor bwysig ydyw eu bod yn cyflawni eu cyfrifoldebau.

At hynny, nid wyf wedi cael cadarnhad eto gan Lywodraeth y DU ynghylch lefel ac amseriad unrhyw gyllid canlyniadol y gallai Cymru ei gael o ganlyniad i gyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni, a hynny er gwaethaf sawl cais am eglurder. Mae hon yn broblem i lesddeiliaid ledled y Deyrnas Unedig ac mae'n hollol briodol bod Cymru yn cael ei chyfran deg.  Byddaf yn parhau i alw am hyn ac yn rhoi gwybod i'r Aelodau pan fydd rhagor o wybodaeth gennym. Ond ni fyddaf yn gadael i'r oedi gan Lywodraeth y DU ein dal yn ôl. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol ac arbenigwyr yn y diwydiant i ddatblygu cam nesaf ein cronfa diogelwch adeiladau.  Rydym hefyd yn ystyried cynllun prynu er mwyn cefnogi lesddeiliaid y mae diogelwch adeiladau yn effeithio arnynt ac y byddai'n well ganddynt werthu eu heiddo.

Mae ein rhaglen adfer yn cael ei datblygu ar y cyd â'n cynlluniau deddfwriaethol i ddiwygio'r system diogelwch adeiladau bresennol, er mwyn sicrhau na fydd pobl sy'n byw mewn adeiladau amlfeddiannaeth yng Nghymru yn wynebu'r problemau hyn yn y dyfodol. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd eu barn i'n hymgynghoriad pwysig ar y Gyfundrefn Diogelwch Adeiladau. Rydym wrthi'n adolygu ac yn ystyried ymatebion er mwyn ein helpu i lywio'r system newydd hon a byddwn yn parhau â'r sgyrsiau pwysig hyn wrth i'n gwaith ar hyn fynd rhagddo.