Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth a Carl Sargeant, Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Mae atal digartrefedd yn un o flaenoriaethau pwysicaf Llywodraeth Cymru ym maes tai, ac mae hyn wedi ei nodi yn y Papur Gwyn ar Dai a gyhoeddwyd ym Mai 2012. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallai’r gostyngiadau mewn budd-dal tai sydd yn yr arfaeth gan Lywodraeth y DU fod yn fygythiad gwirioneddol i allu pobl a theuluoedd i aros yn eu cartrefi, yn enwedig pobl sydd ar incwm is neu’r rhai sydd wedi eu hallgáu’n ariannol.

Bydd Cynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Trechu Tlodi yn dwyn ynghyd y dulliau y gall Llywodraeth Cymru a’n partneriaid cymdeithasol eu defnyddio i helpu cymunedau ac unigolion i dorri’n rhydd o dlodi a digartrefedd. Mae rhoi cymorth i sefydliadau sydd wedi ymrwymo i drechu tlodi, allgáu ariannol a digartrefedd yn parhau i fod yn arbennig o berthnasol ar adeg pan fo Llywodraeth y DU yn cyflwyno newidiadau i’r trefniadau lles a budd-daliadau, yn enwedig o ran y bwriadau mewn perthynas â thalu budd-dal tai.

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau’r perygl o ddigartrefedd ymysg pobl sy’n profi’r effaith fwyaf o ganlyniad i’r newidiadau i ddiwygio lles, ac mae wedi rhoi £150,234 dros dair blynedd i gefnogi’r prosiect ‘Mynd i'r afael â Digartrefedd trwy Gynhwysiant Ariannol’.

Mae sefydliad dyngarol yr Oak Foundation hefyd yn ariannu’r prosiect, ac mae’n cael ei ddarparu gan Ganolfan Cydweithredol Cymru. Ar y cyd â’r rhwydwaith o Undebau Credyd yng Nghymru, bydd y prosiect yn galluogi pobl sydd ar incwm isel i dalu’r budd-dal tai i’w landlord trwy gyfrif gyda’r undeb credyd, ac mae hyn yn gymorth i gael ffordd mwy sefydlog o dalu’r landlord. Hefyd, bydd yn annog pobl i feithrin perthynas gyda’u hundeb credyd leol, ac i fanteisio ar yr hyn y gall undeb credyd ei gynnig, sef lle diogel ar gyfer cynilion, a chredyd fforddiadwy pan fo angen.

Erbyn Medi 2015, disgwylir y bydd mwy na 6,800 o gyfrifon rhent newydd wedi cael eu hagor gyda’r undebau credyd yn ystod cyfnod y prosiect. Bydd llwyddiant y prosiect yn dibynnu ar gydweithio effeithiol ar draws y sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat er mwyn gwella sefyllfa ariannol pobl ymhob rhan o Gymru, ac i’w hatal rhag bod yn ddigartref yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu’r rhwydwaith o Undebau Credyd yng Nghymru i gynnig gwybodaeth, cymorth a mynediad at gynnyrch ariannol fforddiadwy. Trwy ddarparu cyllid personol fforddiadwy mewn ffordd foesegol, mae’r cwmnïau cydweithredol a chydfuddiannol hyn yn rhoi dewis amgen a fforddiadwy i’r bobl hynny yn ein cymunedau sydd fwyaf tebygol o fynd i orddyled, fel nad ydynt yn troi at ddarparwyr benthyciadau costus neu rai ar stepen y drws.