Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’r datganiad hwn yn disgrifio’r datblygiadau diweddaraf ynghylch camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) ar orsafoedd trenau.

Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymunedau’n lleoedd diogel i fyw ynddyn nhw a gall camerâu CCTV o’u defnyddio’n iawn, fod yn erfyn pwysig i ddiogelu’r cyhoedd ac i leihau troseddu.

Er nad yw’r rheilffyrdd yn bwnc sydd wedi’i ddatganoli i Gymru ac mai mater i Network Rail a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yw darparu camerâu CCTV, rydym wedi ymrwymo i wneud y rhwydwaith rheilffyrdd ar draws Cymru’n fwy diogel.

Rydym wedi ariannu systemau CCTV modern o ansawdd eu defnyddio fel tystiolaeth ar bob un o wasanaethau Trenau Arriva Cymru a lle rydym yn talu am welliannau i orsafoedd, byddwn yn cynnwys camerâu CCTV.  Bydd camerâu CCTV o ansawdd tystiolaeth yn cael eu gosod ar bob stesion newydd.

Rwy’n disgwyl i Lywodraeth y DU a Network Rail fuddsoddi i wella gorsafoedd, gan gynnwys darparu systemau CCTV priodol.  Rwy’n deall bod yna sawl gorsaf sy’n defnyddio systemau CCTV hynach o safon is, a byddaf yn dal ati i wasgu ar Lywodraeth y DU i’w gwella.

Yn ychwanegol at fy ymrwymiad i ddarparu system gludiant ddiogel, rwyf wedi neilltuo £257,000 y flwyddyn am gyfnod o dair blynedd gan ddechrau ym mis Ebrill 2014 i barhau i ariannu Swyddogion Cymorth Cymunedol Heddlu Trafnidiaeth Prydain a rhan-ariannu swydd Arolygydd Heddlu. Mae hyn ar ben ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.