Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ddydd Llun 21 Hydref, roeddwn i mewn digwyddiad rhwydweithio yn Abertawe i lansio canllaw sy’n ei gwneud yn haws i fusnesau Cymru ffurfio consortia i gyflwyno cynigion ar gyfer contractau sector cyhoeddus.

Mae’r Canllaw newydd ar Gyflwyno Cynnig ar y Cyd yn rhoi cyngor ymarferol ar y manteision a’r heriau sydd ynghlwm â chyflwyno cynnig fel consortiwm, o safbwynt darpar aelodau consortia ac o safbwynt gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus sy’n hysbysebu contractau. Cafodd ei lunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ac mae’n cynnwys pecyn cynhwysfawr o ddulliau ymarferol i helpu prynwyr a chyflenwyr i nodi’r manteision ac ymdrin â’r risgiau cysylltiedig.

Gellir gweld y ddogfen ar-lein.

Cyhoeddais Ddatganiad Polisi Caffael Cymru ym mis Rhagfyr 2012, sy’n pennu’r egwyddorion i’w dilyn ym mhob gweithgarwch caffael. Mae’r Datganiad hwn a’r Adroddiad Strategaeth Microfusnesau, dyddiedig mis Ionawr 2012, ill dau yn hyrwyddo cynigion drwy consortiwm fel ffordd o alluogi busnesau bach i gystadlu am gontractau cyhoeddus mawr.  

BBaChau yw’r rhan fwyaf o’n  busnesau a’n cyrff trydydd sector, ac eto efallai nad oes gan rai o fusnesau Cymru y capasiti i gyflwyno cynnig yn annibynnol am gontractau cydweithredol ac untro mawr. Mae cyflwyno cynnig a darparu ar y cyd yn ffordd ddelfrydol i fusnesau gadw eu hannibyniaeth, gan gynyddu’u gallu i ymdrin â darnau mwy o waith.

Mae’r canllaw’n cynnwys enghreifftiau da lle mae cwmnïau wedi dod ynghyd i gyflenwi contractau cyhoeddus yng Nghymru yn llwyddiannus, ac rwyf am weld y llwyddiant hwn yn tyfu.

Ein camau nesaf yw datblygu hyfforddiant caffael i’w gynnwys yn y gyfres o gyrsiau a gynigir drwy gontract hyfforddi Gwerth Cymru, a rhedeg rhai cynlluniau peilot caffael sy’n addas i gonsortia i brofi’r canllaw a chofnodi’r gwersi a ddysgir. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n partneriaid i ddatblygu deunydd hyfforddi ar gyfer darpar aelodau consortia.

Mae hwn yn gam pwysig o ran ein darpariaeth caffael cyhoeddus ac rwy’n edrych ymlaen at weld enghreifftiau pellach o gonsortia yn cyflenwi contractau gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.