Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn hysbysu Aelodau’r Cynulliad fod Canllaw Arferion Da ar y Dull Addysg Gyfan o fynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi ei gyhoeddi heddiw fel rhan o becyn o fesurau i gynorthwyo i roi’r Ddeddf ar waith

Datblygwyd y Canllaw hwn ar y cyd â Chymorth i Fenywod Cymru. Y bwriad yw iddo fod yn becyn cymorth ymarferol a defnyddiol ar gyfer ymgorffori egwyddorion Dull Addysg Gyfan o fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol mewn ysgolion a Sefydliadau Addysg Uwch. Mae’n cydnabod pwysigrwydd lleoliadau addysg fel amgylchedd lle gellir meithrin agwedd gadarnhaol at gydraddoldeb rhywiol a pherthnasau iach, parchus.