Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma air i esbonio'r sefyllfa ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd ynghylch cyhoeddi'r canllaw i Haen Gyffredinol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) sy'n dechrau yn 2026. 

Ym mis Gorffennaf, rhannais fanylion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Pwynt tyngedfennol yn hanes amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae’n gynllun fydd yn cefnogi ffermwyr yng Nghymru i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel gan ofalu hefyd am yr amgylchedd, addasu i'r newid yn yr hinsawdd a chryfhau’r diwydiant i bawb a fydd yn gweithio'r tir gwerthfawr hwn ac yn gofalu amdano yn y blynyddoedd i ddod.  

Heddiw, rydym yn cyhoeddi canllawiau llawn ar gyfer Haen Gyffredinol y cynllun. Mae hyn yn cynnwys taflenni ffeithiau sy'n disgrifio'r gofynion cyfreithiol sy'n sail i'r cynllun a llyfryn canllaw sy'n rhoi gwybodaeth bwysig am bwy sy'n gymwys, gofynion y Cod i Bawb a manylion y Gweithredoedd Cyffredinol a allai fod yn berthnasol i ffermydd yng Nghymru. Fe welwch hefyd wybodaeth bwysig am sut y caiff y Cynllun ei roi ar waith a'i gyflawni a'r trefniadau monitro, gwerthuso ac adrodd.

Mae Haen Gyffredinol yr SFS yn gweithredu fel cynllun blynyddol a bydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2026. Bydd map yr SFS, sy'n dangos yr wybodaeth y bydd angen i ffermwyr ei gwybod am eu ffermydd, ar gael ar eu cyfrifon Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein o 31 Rhagfyr 2025 ymlaen.

Rwy'n annog pob ffermwr sy'n ystyried cymryd rhan yn y cynllun i daflu golwg ar y canllaw a dysgu beth sydd ynddo cyn i ni gyhoeddi'r Ffurflen Gais Sengl (SAF) ar 2 Mawrth 2026. Bryd hynny, bydd rhaid i ffermwyr ddewis naill ai ymuno â'r SFS neu aros gyda’r Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS), lle bydd taliadau'n dechrau cael eu lleihau y flwyddyn nesaf fel rhan o'n cynllun pontio.

Rwy'n gwerthfawrogi y gall cynllun newydd deimlo fel newid mawr i rai o'n ffermwyr. Dylai dechrau blwyddyn y cynllun felly fod yn amser i ystyried eich opsiynau yn ofalus heb bwysau, tra'n sicrhau uniondeb y cynllun. 

Er mwyn gwneud pethau mor syml â phosibl, o 1 Ionawr tan ddyddiad cau'r SAF ar 15 Mai, bydd pob ffermwr yn cael ei drin fel pe bae’n bodloni gofynion yr Haen Gyffredinol. Bydd hyn yn fan cychwyn clir i bawb ac yn sicrhau tegwch yn ystod y pontio. Ein nod bob amser fydd annog ffermwyr i ymuno â'r SFS a'u helpu bob cam o'r ffordd.

Mae hynny'n brawf o’m hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth a chynnal cynllun sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth a chyfrifoldeb. Bydd yn lleihau baich diangen ar ein ffermwyr ac yn cefnogi ffordd deg ac ymarferol o weithio a symud ymlaen gyda'n gilydd.

Rwy'n bwriadu rhoi rhagor o wybodaeth am gam cyntaf ein gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol ar gyfer 2026 yn y gwanwyn, a byddwn yn dal i ddatblygu a chryfhau'r cynllun hwn drwy gydol y cyfnod pontio. Yn y cyfamser, byddwn yn dal i roi help a chyngor i ffermwyr drwy ein rhaglen Cyswllt Ffermio a nifer o gynlluniau paratoi ar gyfer yr SFS.